Bydd ymchwiliadau yn parhau trwy'r haf
|
Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i olion eglwys ganoloesol 'goll' yng Ngheredigion. Fe wnaeth dîm o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan ddod o hyd i'r adeilad o'r 12fed ganrif ar ôl gwneud arolwg geoffisegol. Ym mhentref Swyddffynnon, ger Aberystwyth, credir mai Capel y Groes ydyw, a gofnodwyd am y tro diwethaf ar fapiau swyddogol yn yr 1840au. Bydd ymchwiliadau yn parhau trwy'r haf. Er mai nawr mae'r stori wedi dod i'r amlwg, cafodd y capel ei ddarganfod fis yn ôl gan dîm o ymchwilwyr a myfyrwyr oedd yn cynnal prosiect ar y safle. Nid yw'r adeilad i'w weld uwchben y tir, ond daeth y staff a'r myfyrwyr o hyd i sylfaeni'r eglwys mewn cae ger fferm o'r enw Tŷ Mawr. 'Diddordeb' Yn ôl ymchwil a gafodd ei gynnal gan Yr Athro David Austin a Dr Jemma Bezant, roedd Swyddffynnon yn safle pentref canoloesol. Dywedodd Dr Bezant mai mynachod o Ystrad Fflur, mae'n debyg, a adeiladodd yr eglwys yn 1165. "Hoffwn ddiolch i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ynghyd â'r trigolion lleol a'r tirfeddianwyr sydd wedi bod yn gefnogol iawn. "Rydym yn annog mwy o bobl i gymryd diddordeb yn y prosiect dros yr haf," meddai Dr Bezant. Mae'r ymchwilwyr wedi dod o hyd i nifer o safleoedd archeolegol eraill nad oedd wedi cael eu cofnodi o'r blaen. Cafodd dau safle caeëdig cynhanesyddol, dwy domen o'r Oes Efydd, hen adfeilion, llwybrau a chwareli eu darganfod. Roedd y tîm wedi cynnal ymchwil ar hen safle melin ŷd o'r Oesoedd Canol hefyd.
|