British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Mai 2009, 08:41 GMT 09:41 UK
Murphy yn hawlio £3000 am foeler

Paul Murphy
Murphy: Penderfynwyd fod foeler yn anniogel

Fe hawliodd Ysgrifennydd Cymru Paul Murphy fwy na £3,000 o dreuliau i gael boeler oherwydd ei fod yn credu bod ei ddŵr yn "rhy dwym".

Mae Cabinet Llywodraeth San Steffan, gan gynnwys y Prif Weinidog Gordon Brown, yn wynebu cwestiynau ar ôl i fanylion eu treuliau gael eu cyhoeddi yn y Daily Telegraph.

Ond dywed Mr Murphy bod y treuliau a hawliodd am ei ail gartref o fewn y rheolau.

Dywedodd Aelod Seneddol Torfaen fod ei hen foeler yn anniogel ac nad oedd modd ei drwsio.

'O fewn y rheolau'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Mr Murphy: "Mewn 22 flynedd yn Nhŷ'r Cyffredin mae pob un o'i dreuliau wedi bod o fewn y rheolau fel y cyhoeddir hwy yn Llyfr Gwyrdd y Senedd, a'u hysbryd.

"Mae e bob amser yn gwirio ei geisiadau yn ofalus gyda Swyddfa Ffïoedd Tŷ'r Cyffredin.

"Penderfynwyd bod yr hen foeler yn anniogel ac felly roedd angen cael un arall yn ei le ar ôl ceisio ei drwsio."

Roedd disgwyl i fanylion llawn treuliau Aelodau Seneddol - ers pedair blynedd ac yn cynnwys 2.4 miliwn o dderbynebau - gael eu cyhoeddi yng nghanol mis Gorffennaf wedi cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Murphy yn gaddo brwydr etholiadol
16 Chwef 08 |  Newyddion
Pryderon wedi penodiad Murphy
25 Ion 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific