British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Mai 2009, 05:53 GMT 06:53 UK
Dechrau codi pwerdy £1bn

Y pwerdy: Argraff artist
Argraff artist o'r pwerdy newydd ym Mhenfro

Mae gwaith adeiladu yn dechrau ddydd Gwener ar bwerdy newydd £1 biliwn i Gymru, gan greu 2,000 o swyddi adeiladu.

Bydd gorsaf cwmni RWE npower yn cynhyrchu 2000 megawat o ynni, gan ddarparu digon o drydan i 3 miliwn o gartrefi.

Bydd y pwerdy nwy yn cael ei godi ar safle hen bwerdy Penfro, yr ochr draw i orsaf LNG yn Aberdaugleddau.

Ond mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn honni y bydd colli gwres o'r orsaf yn "rhy wastraffus".

Ym mis Awst 2007 fe wnaeth y cwmni arwyddo cytundeb â chontractwyr i godi'r pwerdy ar hen safle gorsaf bŵer Penfro a gaeodd ym 1996.

Fe wnaeth Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan gymeradwyo y cais cynllunio ym mis Chwefror.

Mae'r gwaith adeiladu yn mynd i gymryd tair blynedd ac yn y pendraw fe fydd tua 100 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y pwerdy newydd.

Y pwerdy fydd yr un mwyaf ym Mhrydain ers codi gorsaf Drax yn Sir Gogledd Efrog ym 1986.

Mae Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan a'r aelodau etholedig yn San Steffan, Nick Ainger, ac yn y Cynulliad, Angela Burns, yn cefnogi'r cynllun.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Pwerdy newydd: 2,000 o swyddi?
05 Chwef 09 |  Newyddion
£400 miliwn: Creu ynni o wastraff
29 Ion 09 |  Newyddion
Atomfeydd: Meini prawf
27 Ion 09 |  Newyddion
Morglawdd: Gam yn nes?
26 Ion 09 |  Newyddion
Fydd deddf newydd yn drobwynt?
24 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific