British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Mai 2009, 16:26 GMT 17:26 UK
Cadeirydd newydd i Gyngor

Y Cynghorwyr Lloyd-Jones ac Owen
Y Cynghorwyr Lloyd-Jones ac Owen

Mae Cynghorydd ward Tywyn Anne Lloyd-Jones wedi cael ei phenodi yn gadeirydd newydd Cyngor Gwynedd brynhawn ddydd Iau.

Cafodd ei hethol yng nghyfarfod blynyddol y cyngor gyda'r cynghorydd W Tudor Owen o ward Peblig yn Is-Gadeirydd.

Mae'r ddau gynghorydd yn aelodau o Gyngor Gwynedd ers 1995.

Yn Gynghorydd Tref Tywyn ers 1985, bu'r Cynghorydd Anne Lloyd-Jones yn Faeres yn 1991 ac eto yn 2004.

Mae hi wedi gweithio ym maes twristiaeth ers 1974 gan redeg gwesty fferm ar gyrion Tywyn, ac mae'n Gadeirydd Twristiaeth Canolbarth Cymru ers 2001.

Wrth gael ei hethol dywedodd y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones ei bod yn fraint cael yr anrhydedd: "Edrychaf ymlaen yn fawr i'r flwyddyn sydd i ddod, a byddaf yn gwneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith Cyngor Gwynedd er budd holl drigolion y sir."



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific