British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Mai 2009, 10:03 GMT 11:03 UK
Gwobr arbennig i ysgolhaig

Yr Athro Elan Closs Stephens
'Cyfraniad eithriadol': Yr Athro Elan Closs Stephens

Fe wnaeth yr Athro Elan Closs Stephens dderbyn gwobr anrhydeddus nos Iau.

Hi yw Athro Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd ei hanrhydeddu yng Nghaerdydd lle mae cynhadledd Cyfrwng yn cael ei chynnal.

Y rheswm yw ei "chyfraniad eithriadol" at y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

"Fel ysgolhaig blaenllaw yn y diwydiannau creadigol mae hi'n llwyr haeddu ennill y wobr," meddai cadeirydd Cyfrwng, John Hefin.

'Allweddol'

"Mae'n ffigwr allweddol ym myd y cyfryngau a'r celfyddydau creadigol yng Nghymru ac mae hi wedi bod yn amlwg wrth lywio a dylanwadu ar nifer o agweddau'r maes yn nhermau addysg uwch a'r diwydiant.

"Nid oedd gan y panel unrhyw amheuaeth wrth gyflwyno'r wobr iddi ac rydyn ni'n falch ei bod wedi derbyn."

Cynreolwr BBC Cymru, Geraint Stanley Jones, wnaeth gyflwyno'r wobr.

"Yn ystod y cyfnod hwn o ddathlu blynyddol y carpedi coch, a'r sylw i'r rhai mwya amlwg ym myd y cyfryngau, mae'n hawdd anghofio'r rhai sy'n gwneud eu llwyddiannau'n bosib.

"Un o'r rhain yw'r Athro Elan Closs Stephens wnaeth gyfraniad helaeth i ddatblygiad y cyfryngau ffilm a darlledu yng Nghymru drwy ei gwaith fel addysgwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac fel aelod o Gyngor Darlledu'r BBC ac aelod a Chadeirydd Awdurdod S4C.

'Yn fraint'

"Fel cydweithiwr am nifer o flynyddoedd mae'n fraint a phleser i mi gael cyflwyno'r wobr iddi gyda diolch a gwerthfawrogiad".

Ar ôl graddio yn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Somerville yn Rhydychen ymunodd hi ag Adran Ddrama Prifysgol Aberystwyth ym 1975.

Treuliodd 10 mlynedd yn yr adran cyn symud i'r Adran Theatr, Ffilm a Theledu.

Derbyniodd hi'r CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2001 am ei gwasanaeth i ddarlledu a'r iaith Gymraeg.

S4C

Roedd hi'n gadeirydd Awdurdod S4C rhwng 1998 a 2006.

Bu'n llywodraethwr Sefydliad Ffilm Prydain rhwng 2001 a 2007 ac yn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu cyn adnewyddu Theatr Ffilm Brydeinig y South Bank.

Mae hi'n aelod o Fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru.

Bu'n gwasanaethu rhai o brif sefydliadau Cymru ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol a Bwrdd yr Iaith.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Gwobr Cyfrwng 2007 i hanesydd
14 Ebr 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific