Cafodd Clive McGregor ei ethol yn arweinydd y cyngor sir
|
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi ethol arweinydd newydd ddydd Mawrth. Yn eu cyfarfod cyffredinol blynyddol cafodd y Cynghorydd Clive McGregor ei ddewis fel arweinydd. Daw hyn ar ôl i'r Cynghorydd Phil Fowlie gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo. Cafodd Mr McGregor ei ethol i'r cyngor ym mis Mai 2008 dros ward Llanddyfnan. Roedd Mr Fowlie wedi ymddiswyddo fel arweinydd y cyngor ac Arweinydd y Grŵp Annibynnol Gwreiddiol oherwydd rhesymau iechyd. Bydd yn parhau i gynrychioli ward Rhosneigr ar y cyngor. Y grŵp mwyaf ar y cyngor, y grŵp Annibynnol Gwreiddiol, oedd wedi enwebu Mr McGregor. Wedi iddo gael ei ethol dywedodd Mr McGregor ei fod yn teimlo anrhydedd bod ei gyd-aelodau am ymddiried ynddo. 'Cymodi' "Mae'r Awdurdod yma yn wynebu sawl her, yn bennaf ein sefyllfa economaidd fregus, y bygythiad y bydd cefnogaeth ariannol o'r Cynulliad yn lleihau, ac wrth gwrs rydym nawr yn disgwyl argymelliadau'r Archwilydd Cyffredinol, yn dilyn yr adolygiad diweddar.
Roedd 'na gyfarfod blynyddol o'r cyngor ddydd Mawrth
|
"Os ydym i symud ymlaen fel Cyngor Sir, bydd rhaid gwneud hynny gyda'n gilydd. "I'r perwyl hynny, bydd fy nrws i'n agored i bob aelod a swyddog o'r Cyngor yma." Dywedodd ei fod yn awyddus i gymodi gyda'r wrthblaid. "Byddaf yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gydag arweinydd y grwpiau eraill, ac yn gobeithio defnyddio'r cyfarfodydd hynny fel fforwm i drafod y materion hynny sydd o bwys i bobl Môn. "Rwyf hefyd yn gobeithio, drwy drafodaethau agored, y cawn anghytuno mewn preifat yn hytrach nag yn gyhoeddus." Heddwas Fe wnaeth Mr McGregor dalu teyrnged i'w ragflaenydd. "Hoffwn nodi ein bod fel cyngor yn dymuno'r gorau i Phil wrth iddo ddechrau ei driniaeth feddygol. "Rydym yn gobeithio ei weld yn ôl yn y cyngor mor fuan â phosib. "Rydym yn gwerthfawrogi ei gyfraniad dros y 12 mis diwethaf ac mae o am i mi ddiolch i'r staff i gyd a'i gyd-gynghorwyr am eu cefnogaeth." Cafodd Mr McGregor ei eni yng Nghaerfyrddin ac ymunodd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn 1967. Rhwng 1987 a 1992 bu'n gweithio yng Nghaergybi a chafodd gyfnod wedyn cyn ei ymddeoliad yn 1997 yn gweithio yn y dref. Yn ystod y cyfarfod blynyddol cafodd dau gynghorydd eu dewis i fod yn aelodau newydd o'r cabinet. Fe fydd Tom Jones yn gyfrifol am bortffolio cyllid a William Hughes yn gyfrifol am dai. Mae Goronwy Parry yn cymryd cyfrifoldeb am addysg a hamdden tra bod Eurfryn Davies yn gyfrifol am bortffolio priffyrdd, trafnidiaeth a morwrol.
|