British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Ebrill 2009, 17:09 GMT 18:09 UK
JCB: Mwy o ddiswyddiadau

Arwydd JCB
Mae'r newyddion yn ergyd arall i weithwyr JCB

Mae cwmni JCB wedi cyhoeddi mai cwymp byd eang yn y diwydiant adeiladu sy'n gyfrifol am 17 o ddiswyddiadau yn Wrecsam.

Yn 2008 cafodd 164 o bobl eu diswyddo - a chollodd 58 o staff ychwanegol eu swyddi yn gynharach eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae JCB wedi rhoi gwybod i'n staff y bydd yn rhaid diswyddo 17 o weithwyr, a gweithwyr siop gan nad yw'r farchnad offer adeiladu wedi gwella dros y misoedd diwethaf."

Mae'r newyddion diweddaraf yn ergyd arall i weithwyr y cwmni.

Cyfnod anodd

Ddechrau fis Ionawr eleni cyhoeddodd y cwmni eu bod yn diswyddo 60 o'u staff.

Roedd y cwmni'n cyflogi 400 o bobl ar y safle ar y pryd.

Yn 2008 cafodd 684 o swyddi eu colli drwy Brydain.

Fe benderfynodd gweithwyr JCB weithio llai o oriau er mwyn achub eu swyddi.

Dywedodd y cwmni fod hyn wedi diogelu mwy na 300 o swyddi drwy Brydain.

Diffyg arian oddi ar fanciau - a fyddai'n galluogi busnesau i brynu peiriannau - yn ogystal â "diffyg hyder" yn yr economi oedd yn gyfrifol am y diswyddiadau y llynedd.

Roedd Prif Weithredwr JCB, Matthew Taylor yn ffyddiog byddai'r sefyllfa wedi gwella yn ystod chwarter cynta 2009, wedi i'r llywodraeth fuddsoddi biliynau o bunnau i'r economi.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
JCB: Colli 60 o swyddi
12 Ion 09 |  Newyddion
JCB: 398 i golli eu gwaith
14 Tach 08 |  Newyddion
Pryder am swyddi JCB
06 Maw 08 |  Newyddion
Gwerthu casgliad mewn ocsiwn
02 Hyd 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific