British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Ebrill 2009, 16:20 GMT 17:20 UK
Coffu tywysoges: Newid enw

Carnedd Uchaf
Mae Carnedd Uchaf yn rhan o'r Carneddau

Fe fydd un o gopaon Eryri yn cael enw newydd eleni.

Mae'r Arolwg Ordnans wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod wedi cytuno i ailenwi mynydd ger Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd.

Yr enw newydd fydd Carnedd Gwenllian er cof am ferch Llywelyn ein Llyw Olaf.

Daw hyn ar ôl ymgyrch Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian.

Ar hyn o bryd Carnedd Uchaf yw enw'r mynydd 926 medr o uchder.

Os na fydd unrhyw wrthwynebiad fe fydd yr enw newydd ar fapiau ym mis Medi.

Dywedodd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y tirfeddiannwr mwya, nad oedden nhw'n erbyn newid yr enw.

Yn y cyfamser, mae'r gymdeithas yn trefnu seremoni fydd yn cyd-fynd â chyhoeddi'r map newydd.

'Ddim i unlle'

Dywedodd Mallt Anderson o'r gymdeithas fod angen rhoi parch i'r dywysoges.

"Fuodd hi ddim allan o'r lleiandy, a'th hi ddim i unlle ...

"Ro'dd hi yr hyn yr oedd hi, tywysoges Cymru ac mae'n haeddu'n gwrogaeth."

Cafodd Gwenllian ei chludo i'r lleiandy yn Sempringham, Sir Lincoln, yn ferch ifanc iawn wedi marwolaeth ei thad yn 1282 hyd nes ei marwolaeth yn 1337.

Ers blynyddoedd mae'r gymdeithas wedi ceisio codi ymwybyddiaeth amdani ac wedi codi cofeb iddi yn Sempringham a phlac ar Yr Wyddfa.

"Yn y carneddau mae Carnedd Llywelyn - hynny yw ar ôl ei thad.

"Mae yno Fynydd Yr Elen er cof am ei mam, Eleanor de Montford ac mae Carnedd Dafydd yno hefyd, brawd Llywelyn ac ewythr Gwenllian.

"Ond do'dd dim un llwchyn yn dwyn yr enw Gwenllian."

Dau enw

Roedd y gymdeithas wedi llythyru am dair blynedd ag unigolion a chyrff lleol a chenedlaethol.

Dywedodd John Pugh o'r Arolwg Ordnans y gallai fod dau enw ar y mynydd.

"Yn y map nesa, yr Explorer ym mis Medi a'r Landranger ym mis Ionawr, fe fydd y ddau enw ar y mapiau, Carnedd Uchaf a Charnedd Gwenllian ochr yn ochr.

"Fe fydd y ddau enw'n cael eu hargraffu hyd nes bod yr enw newydd wedi ei fabwysiadu'n llwyr."

Dywedodd yr arolwg nad oes ganddyn nhw awdurdod i newid yr enw ond eu bod yn adlewyrchu'r defnydd ar lawr gwlad.

Eisoes mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi dweud nad ydyn nhw'n erbyn newid yr enw.

Doedd Cyngor Gwynedd ddim am wneud sylw am y tro.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llu Awyr yn Y Fali a chadeirydd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen na fyddai newid enw copa yn amharu ar eu gwaith.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Galw am enwi mynydd ar l tywysoges
09 Tach 05 |  Newyddion
Cofeb i dywysoges wedi'i ddifrodi
31 Awst 00 |  Newyddion
Dim Tywysoges Cymru arall?
07 Gorff 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific