British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 29 Ebrill 2009, 19:16 GMT 20:16 UK
Wylfa: Dau gwmni yn prynu tir

Atomfa'r Wylfa
Mae llywodraeth San Steffan wedi penderfynu fod gan dechnoleg niwclear ran bwysig i'w chware wrth gynhyrchu ynni.

Mae cwmnïau RWE Npower ac EON wedi cyhoeddi mai nhw sydd wedi llwyddo i brynu'r tir ar gyfer gorsaf niwclear newydd bosib yn Wylfa ar Ynys Môn.

Mae'r broses o brynu'r tir wedi bod yn mynd yn ei blaen ers rhai wythnosau.

Yn ôl y cwmnïau byddai'r safle'n ddelfrydol ar gyfer gorsaf niwclear newydd.

Mae gan y cyhoedd bythefnos arall i roi eu barn am y syniad o godi gorsafoedd niwclear ar safleoedd ar draws Prydain, gan gynnwys yr Wylfa ar Ynys Môn.

Rhestr o 11

Mae llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi rhestr o 11 o safleoedd addas ar gyfer codi atomfeydd yng Nghymru a Lloegr.

Mae naw o'r safleoedd ar dir gorsafoedd niwclear presennol - gyda'r ddau safle arall ar gyrion canolfan ail brosesu Sellafield yng Nghumbria.

Mae llywodraeth San Steffan am gael barn y cyhoedd cyn llunio rhestr fer rywbryd cyn diwedd yr Haf.

Yna fe fyddai cwmnïau yn cael eu hannog i wneud ceisiadau cynllunio. Mae'r broses wedi ei chyflymu er mwyn caniatáu i waith adeiladu ddechrau ymhen tair blynedd, gyda thrydan yn cael ei gynhyrchu ymhen naw mlynedd.

Mae Cyngor Ynys Môn yn cefnogi gorsaf newydd yn Wylfa.

Y ffordd rwyddaf i wneud eich sylwadau neu ddarganfod mwy am y broses yw drwy ymweld â www.nuclearpowersiting.decc.gov.uk

Gall aelodau'r cyhoedd hefyd ymweld â Swyddfeydd Cynllunio'r Cyngor yn Llangefni neu un o'r llyfrgelloedd canlynol: Cemaes, Porthaethwy, Biwmares, Llangefni, Caergybi neu Amlwch.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Wylfa: 'Estyn oes atomfa'
25 Chwef 09 |  Newyddion
Atomfeydd: Meini prawf
27 Ion 09 |  Newyddion
Wylfa B: Cam ymlaen?
23 Ion 09 |  Newyddion
Cysylltiad grid: 'Hwb' i'r Wylfa
30 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific