Fis Mawrth dechreuodd staff Archwilydd Cyffredinol Cymru eu hymchwiliad i Gyngor Sir Ynys Môn
|
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Phil Fowlie, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo. Mae'r Cynghorydd Phil Fowlie wedi ymddiswyddo fel Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd y Grŵp Annibynnol Gwreiddiol oherwydd rhesymau iechyd. Bydd yn parhau i gynrychioli ward Rhosneigr ar y Cyngor. Mae'r Cyngor wedi enwebu y Cynghorydd Clive McGregor fel arweinydd newydd ac fe fydd pleidlais yn cael ei chynnal ddydd Mawrth. 'Cyngor meddygol' Dywedodd y Cynghorydd Fowlie, "Yn anffodus, yn dilyn cyngor meddygol, rwyf wedi cadarnhau fy mod yn ymddiswyddo fel Arweinydd y Cyngor. "Mae hi wedi bod yn fraint cynrychioli'r Awdurdod a phobl Môn fel Arweinydd y Cyngor ers Mai 2008. Mae gan yr Awdurdod sawl her ac rwy'n dymuno'n dda i fy olynydd." Bydd grŵp mwyaf y Cyngor, y grŵp Annibynnol Gwreiddiol, nawr yn enwebu Arweinydd newydd. Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor Sir ar Fai 5 yn ethol Arweinydd newydd. Rheolwr-gyfarwyddwr Yn gynharach y mis hwn, cadarnhaodd Cyngor Ynys Môn y bydd y rheolwr-gyfarwyddwr, Derrick Jones, yn gadael ei swydd. Mae'r awdurdod a Mr Jones wedi penderfynu ar y cyd y bydd yn gadael cyn i'w gytundeb ddod i ben. Fis Mawrth dechreuodd staff Archwilydd Cyffredinol Cymru eu hymchwiliad i Gyngor Sir Ynys Môn. Yn ôl yr archwilydd, Jeremy Colman, fe ddylai'r modd y mae'r cyngor yn cael ei reoli fod yn destun pryder i bawb. Ers blynyddoedd, mae ffraeo mewnol wedi bod yn nodwedd amlwg o Gyngor Sir Ynys Môn.
|