Fe fydd y pwerdy yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 3 miliwn o dai
|
Mae cwmni Alstom wedi cael cytundeb gwerth bron i £1 biliwn gan gwmni RWE npower i adeiladu pwerdy nwy newydd yn Sir Benfro.
Dyma fydd y pwerdy mwya o'i fath ym Mhrydain.
Gall dros 1,500 o swyddi gael eu creu o ganlyniad i'r cyhoeddiad.
Fe fydd yn cyflenwi nwy i tua 3 miliwn o gartrefi.
Caiff y ganolfan ei hadeiladu ar gyn-safle gorsaf bŵer yn Noc Penfro.
"Mae'r prosiect newydd yn dangos yn glir bod arbenigedd peirianyddol Alstom yn hanfodol i'r diwydiant ynni ym Mhrydain, ac ar draws y byd," meddai Philippe Joubert, Llywydd Alstom Power.
"Dyma'r ail gytundeb a arwyddwyd gan Alstom gyda RWE npower mewn llai na dwy flynedd, sy'n tanlinellu hyder ein cwsmer yn ein gallu peirianyddol."
Dywedodd Cymdeithas y Ddaear Cymru gallai Sir Benfro ddatblygu i fod y sir sy'n rhyddhau'r mwya o garbon deuocsid yng Nghymru petai'r orsaf yn cael ei chodi gan basio Castell-nedd Port Talbot.
Credir y bydd y gwaith adeiladu yn cymryd rhyw dair blynedd i'w gwblhau.
Dywedodd RWE npower bydd yr orsaf newydd yn rhan o'u cynlluniau i newid eu fflyd cynhyrchu pŵer gyda gweithiau pŵer newydd, mwy effeithiol a mwy caredig i'r amgylchedd.
Y prosiect hwn yw'r ail mae Alstom wedi ei arwyddo gyda RWE npower ym Mhrydain yn dilyn y cytundeb a enillodd yn 2007 ar gyfer gwaith pŵer yn Staythorpe, Sir Nottingham.
|