Mae cynnyrch a hybu gwasanaethau dwyieithog yn bwysig
|
Mae arolwg yn awgrymu bod mwy na thri chwarter pobl Cymru (76%) yn credu bod cwmnïau'n hysbysebu eu gwasanaeth neu gynnyrch yn ddwyieithog yn bwysig.
Bwrdd yr Iaith Gymraeg wnaeth gynnal yr arolwg a chafodd y canlyniadau eu datgelu ar raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru.
Daw hyn wrth i'r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, roi tystiolaeth am y gorchymyn iaith i'r Pwyllgor Dethol yn San Steffan.
Fe fydd y gorchymyn yn effeithio ar gwmnïau sy'n rhoi gwasanaethau fel dŵr, ynni neu wasanaeth telegyfathrebu a busnesau sy'n derbyn swm sylweddol o arian cyhoeddus.
Ond mae'r syniad o gael mwy o reolau a deddfau ym myd busnes wedi codi gwrychyn nifer o bobl - a rhai wedi dweud nad oes 'na alw am fwy o wasanaethau Cymraeg.
'Ansawdd da'
Yn dilyn ei ymddangosiad gerbron y Pwyllgor, meddai'r Gweinidog dros Dreftadaeth: "Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw, mae'n rhaid iddi gael ei defnyddio yn ein cymunedau. Cam allweddol fydd sicrhau bod gan siaradwyr Cymraeg ddewis o ran iaith pan fyddan nhw'n manteisio ar wasanaethau cyhoeddus.
"Rydym am sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd da ar gael yn y Gymraeg; gwella cysondeb y gwasanaethau hynny; sicrhau bod fframwaith clir a thryloyw ar gyfer helpu pobl i gael gwasanaethau trwy'r Gymraeg a sicrhau chwarae teg i'r rheini sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd trwy gyfrwng y Gymraeg."
Ymfalchïo
Holodd cwmni Beaufort fwy na 1,000 o bobl dros 16 oed ar gyfer yr arolwg.
Dim ond 11% oedd yn ystyried eu hunain yn rhugl yn y Gymraeg.
Alun Ffred Jones: Yn rhoi tystiolaeth
|
Ond roedd 82% yn dweud fod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi.
Tra bod rhai cwmnïau'n dweud bod hysbysebu dwyieithog yn dyblu'r gost, mae rhai eraill yn credu bod dyletswydd arnyn nhw i ddefnyddio'r ddwy iaith.
Eisoes mae Tesco, er enghraifft, yn darparu tiliau hunan-wasanaeth Cymraeg.
Dywedodd 81% eu bod yn credu bod hyfforddi staff i ddysgu Cymraeg yn bwysig.
Newid agwedd
Yn ôl rhai, mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu bod newid agwedd at y defnydd o'r Gymraeg.
Dywedodd prif weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, fod y canlyniadau'n awgrymu fod yr iaith yn "destun balchder i bobl Cymru," i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg.
Roedd mwy o gwmnïau, meddai, yn cynyddu eu defnydd o'r iaith ac yn ymateb i'r galw oddi wrth y cyhoedd.
"Mae'r rhan fwya o'r busnesau mwyaf llewyrchus yn darparu ystod eang o wasanaethau Cymraeg.
"O fewn y misoedd diwethaf rydyn wedi gweld camau breision ... er enghraifft tiliau hunanwasanaeth Tesco a Marks and Spencer a'r tudalennau Cymraeg ar wefannau HSBC a Nat West.
"Y gwir amdani yw bod y Gymraeg bellach yn gynyddol ennill ei lle ym myd busnes."
|