British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 23 Ebrill 2009, 11:55 GMT 12:55 UK
'Na' i adfer enw ysgol Gymraeg

Arwydd Ysgol Gyfun Rhydfelen
Nod ymgyrchwyr: Adfer yr hen enw

Mae cynghorwyr sir wedi gwrthod newid enw Ysgol Gyfun Gartholwg i Ysgol Rhydfelen.

Cafodd Ysgol Gyfun Rhydfelen ei hagor yn 1962 ym mhentref Rhydyfelin ger Pontypridd, yr ail ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghymru.

Mae'r adeilad newydd gafodd ei agor ym mis Medi 2006 yn rhan o gampws gostiodd £42 miliwn ar safle Gartholwg ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.

Pan agorodd, yr enw newydd oedd Ysgol Gyfun Gartholwg a bu rhieni a disgyblion yn protestio.

Dywedodd Gwern Parri, disgybl yn yr ysgol: "Ry'n ni'n mynd i gario mlaen i frwydro ac er bod nhw'n meddwl eu bod nhw wedi ennill, d'yn nhw heb."

Ac fe ddywedodd disgybl arall, Carys Johnstone: "Mae dros bedwar deg o flynyddoedd o hanes gyda'r ysgol 'ma."

"Ry'n ni'n mynd i barhau i frwydro ... a mynd i Strasbourg os oes rhaid."

Gair ola

Roedd cynghorwyr Rhondda Cynon Taf nos Fercher yn trafod cynnig y Cynghorydd John Bell a'r Cynghorydd Michael Powell.

Ac roedd y cynnig yn dweud bod newid enw'r ysgol o Rydfelen i Gartholwg "wedi'i wneud heb unrhyw ystyriaeth i ymgynghori yn ystod y cyfnod na phwysigrwydd hanesyddol yr enw hwnnw".

Dywedodd y ddau gynghorydd bod rhaid rhoi'r gair ola i ddisgyblion yr ysgol.

Yn ogystal ag ysgol gyfun mae ysgol gynradd, canolfan addysg, meithrinfa, llyfrgell a chyfleusterau chwaraeon ar y campws.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Protestio mewn cyfarfod cyngor
25 Maw 09 |  Newyddion
Rhydfelen: Pryder am golli'r enw
17 Mai 06 |  Newyddion
Codi dwy ysgol Gymraeg
02 Ebr 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific