British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009, 16:48 GMT 17:48 UK
Dal gweithwyr anghyfreithlon

Aberystwyth
Asiantaeth: Y cyrch yn Aberystwyth yn 'rhybudd'

Mae'r Asiantaeth Ffiniau wedi dod o hyd i naw o weithwyr anghyfreithlon mewn dau fwyty yn Aberystwyth.

Cafodd tri o weithwyr o China eu canfod yn ystod cyrch ar fwyty Honoured Guest ar Ebrill 16.

A chafodd chwech o bobl - pedwar o Fangladesh a dau o India - eu canfod ym mwyty Indiaidd Shilam.

Gallai'r naw gael eu halltudio ac mae'n bosib y bydd y bwytai'n cael eu dirwyo.

Roedd gweithiwr yng nghegin Honoured Guest yn geisiwr lloches 52 oed oedd wedi cael ei wrthod pan wnaeth e gais.

Ac roedd hawl merch 22 oed i aros yng ngwledydd Prydain wedi dod i ben a menyw 32 oedd yn gweithio yn y gegin wedi cyrraedd yn anghyfreithlon.

£10,000

Dywedodd yr asiantaeth fod y chwech gafodd eu dal yn Shilam yn gweithio'n anghyfreithlon.

Roedd eu hoedran yn amrywio o 25 i 35 oed.

Gallai'r ddau fwyty wynebu dirwy o £10,000 ar gyfer pob gweithiwr anghyfreithlon os nhw'n euog o'u cyflogi heb sicrhau bod hawl ganddyn nhw i weithio yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth yng Nghymru a de- orllewin Lloegr: "Mae ein swyddogion yn mynd yn aml i fusnesau yng Ngheredigion ac mae'r neges yn glir - fyddwn ni ddim yn goddef gweithwyr anghyfreithlon.

"Rydyn ni'n fodlon cydweithio â chwmnïau i'w helpu nhw i sicrhau bod gwiriadau cywir cyn iddyn nhw gyflogi mewnfudwyr.

"Ond mae'r cyrch yn Aberystwyth yn rhybudd - fe fyddwn ni'n dod o hyd i weithwyr anghyfreithlon a chosbi'r busnesau sy'n eu cyflogi nhw."



HEFYD
Bwyd: Gweithwyr anghyfreithlon
16 Ebr 09 |  Newyddion
Gweithwyr tramor: Gwneud mwy
26 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific