British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009, 16:01 GMT 17:01 UK
Cynghorwyr yn talu arian yn ôl

Cyngor Gwynedd
Y cyngor: 'Camgymeriad gweinyddol'

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi bod yn derbyn gormod o arian lwfansau teithio oherwydd camgymeriad gweinyddol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn trefnu cael yr arian yn ôl.

Cafodd £17,047 yn ychwanegol ei dalu i gynghorwyr rhwng Ionawr 2006 a Rhagfyr 2008.

Yn ôl y llefarydd, mae arweinwyr y pum grŵp gwleidyddol ar y cyngor wedi argymell fod eu haelodau yn dechrau ad-dalu'r gordaliadau o'u lwfansau cyfredol.

Dywedodd Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd, Dafydd Edwards, eu bod "yn ymddiheuro'n ddiffuant am y camgymeriad gweinyddol.

"Mae Cyngor Gwynedd wedi adolygu trefniadau mewnol er mwyn sicrhau na fydd camgymeriad tebyg yn digwydd eto.

"Mae'r cyngor bellach wedi trefnu adennill y gordaliadau, ac rydym wedi ysgrifennu at bob cynghorydd a chyngynghorydd perthnasol er mwyn esbonio'r sefyllfa. "




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific