British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2009, 13:05 GMT 14:05 UK
Ymgeisydd Llafur: Tynnu enw'n ôl

Rhys Williams
Cafodd erthygl Mr Williams ei chyhoeddi ym mis Chwefror

Ni fydd darpar ymgeisydd Seneddol Llafur etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Plaid Lafur Cymru na fyddai Rhys Williams, sy'n byw yng Nghwmann ger Llambed, yn sefyll.

Mewn erthygl yng nghylchgrawn Barn ddechrau'r flwyddyn roedd wedi dweud ei fod yn "casáu Cymry Cymraeg".

Mae'n debyg fod y Cymro Cymraeg wedi bod yn teimlo dan bwysau ar ôl i'r erthygl gael ei chyhoeddi.

Roedd wedi honni bod rhai'n defnyddio'r Gymraeg fel arf i wneud i eraill deimlo'n ddinasyddion eilradd.

Pennawd yr erthygl oedd "Dwi'n casáu'r Cymry Cymraeg ond ...".

Ynddi honnodd fod nifer o Gymry Cymraeg yn defnyddio'r iaith i elyniaethu pobl.

Yn beio

Dywedodd hefyd fod rhai oedd yn siarad Cymraeg yn beio eraill am ddirywiad yr iaith er gwaetha'r ffaith nad oedden nhw'n trosglwyddo'r iaith i'w plant.

Ar raglen BBC Cymru, Dragon's Eye, dywedodd ei fod yn glynu at ei sylwadau.

Ar y rhaglen fe ddywedodd cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon, fod y sylwadau yn ei synnu.

Yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr mae nifer uchel o o siaradwyr Cymraeg.

Yr Aelod Seneddol presennol yw Adam Price enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol 2001.

Bu Mr Williams, cyn athro, yn gweithio i Undeb Athrawon yr NUT.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Iaith: 'Corddi'r dyfroedd'
06 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific