British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Ebrill 2009, 19:08 GMT 20:08 UK
Cronfa: Penderfyniad 'gwych'

Cronfa ddwr LLanisien
Mae ymgyrchwyr wedi brwydro yn erbyn y cynllun ers 8 mlynedd

Mae ymgyrchwyr yn dathlu ar ôl i gynllun i adeiladu tai ar safle cronfa ddŵr yng Nghaerdydd gael ei wrthod gan y Gweinidog Amgylchedd.

Mewn cynllun diwygiedig, roedd cwmni Western Power Distribution (WPD) eisiau adeiladu 300 o dai a chanolfan gymunedol ar safle cronfa ddŵr Llanisien.

Er bod yr arolygydd cynllunio Richard Poppleton wedi cymeradwyo'r cais fe gafodd ei wrthod gan Jane Davidson.

Roedd WPD yn gwrthod gwneud sylw a fydden nhw'n apelio yn erbyn y penderfyniad.

Nawr mae'r ymgyrchwyr yn gobeithio bydd y penderfyniad yn dod â'r frwydr i ddiogelu'r safle dros yr wyth mlynedd ddiwethaf i ben.

'Diogelu bywyd gwyllt'

Mae aelod o Grŵp Gweithredu Llanisien, Phil Savage, yn galw ar y safle yng ngogledd Caerdydd gael ei ddiogelu'n barhaol fel ardal naturiol neu barc gwledig.

Ffwngws
Mae 'na nifer o wahanol fathau o fywyd gwyllt yn byw ar y safle

"Mae 'na lawer o waith i'w wneud eto gan fod WPD eisiau dal ymlaen gyda'u cynlluniau a fydd yn y pendraw'n dinistrio'r ardal hardd 'ma.

"Mae'n ardal agored iawn a fydd yn mynd am byth os caiff mwy o adeiladau eu codi ar y safle."

Ychwanegodd y bydd yr ymgyrchwyr yn parhau i frwydro hyd yn oed petai'r WPD yn mynd a'u hachos apêl i'r Uchel Lys.

"Mae penderfyniad gwych y Gweinidog Amgylchedd i wrthod y cynlluniau yn dangos pa mor bell yr ydym wedi cyrraedd wrth sicrhau bod gan bobl Cymru bŵer dros eu bywydau a'r ardaloedd lle maen nhw'n byw," meddai.

"Yn y gorffennol byddai'r broblem yma wedi cael ei datrys tu allan i Gymru gan bobl sydd heb unrhyw ddiddordeb am yr effaith fydde colli ardal mor unigryw a gwerthfawr i'r ddinas yn ei gael."

'Brwydr wyth mlynedd'

Bwriad cynllun gwreiddiol y WPD oedd lleihau maint cronfa ddŵr Llanisien er mwyn adeiladu tai moethus ar ei glannau.

Roedden nhw hefyd yn gobeithio diogelu cronfa Llysfaen gerllaw a chreu cynefin dŵr arbennig a fyddai o dan ofal ymddiriedolaeth bywyd gwyllt.

Ffyngau Capiau Cŵyr
Fe ddywedodd y datblygwyr bod amddiffyn bywyd gwyllt yn rhan annatod o'u cynlluniau

Cafodd y cynllun ei wrthod gan Gyngor Caerdydd a'i ategu gan Ms Davidson yn 2007.

Roedd y cynllun diweddaraf yn cynnwys datblygu unedau preswyl, llyn hwylio a chlwb yn ogystal â chreu cynefin ddŵr a chanolfan gymunedol.

Mewn datganiad ar ran Ms Davidson, dywedodd Prif Swyddog Cynllunio Llywodraeth y Cynulliad, Rosemary Thomas, mai'r prif fater o dan sylw yw coridor Nant Fawr sef ardal sy'n amddiffyn safleoedd agored Caerdydd.

"Fe ddaeth Ms Davidson i'r penderfyniad y byddai maint yr effaith a fyddai'r datblygiad yma'n ei gael ar safleoedd agored Caerdydd ddim yn cyfateb i'n polisïau cynllun datblygu," meddai.

Fe ychwanegodd y byddai'r olygfa o gronfa ddŵr Llysfaen, y corstiroedd a'r bobl sy'n defnyddio'r llyn yn cael eu hamharu petai'r cynlluniau'n yn mynd yn eu blaen.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cronfeydd: Cefnogwyr hapus
17 Awst 07 |  Newyddion
Gwrthwynebu codi tai ger cronfa ddwr
29 Ion 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific