British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 20 Ebrill 2009, 14:42 GMT 15:42 UK
Cau gwely cocos ar l profion

Cocos
Mae'r gwelyau wedi cael eu cau nifer o weithiau o'r blaen oherwydd gwenwyn

Mae gwely cocos a chregyn gleision ar y ffin rhwng Abertawe a Chaerfyrddin wedi cau ar ôl i wenwyn cregyn y môr gael ei ddarganfod yn y dŵr.

Mae cynghorau sir Caerfyrddin ac Abertawe wedi cau gwelyau ar ddwy ochr yr afon ger Penrhyn Gŵyr hyd nes bod profion yn cael eu cynnal.

Mae disgwyl i samplau gael eu cymryd yr wythnos nesaf.

Roedd y cynghorau'n awyddus i bwysleisio nad oes perygl i'r cyhoedd o ganlyniad i'r gwenwyn, a'i bod hi'n ddiogel i nofio yn y môr.

Gall y math hwn o wenwyn achosi trafferthion stumog a chwydu os bydd rhywun yn ei fwyta.

Diogelwch

Bu'n broblem fawr yn y blynyddoedd diwethaf i'r ardal sy'n enwog am gocos.

Dywedodd pennaeth diogelwch y cyhoedd Cyngor Sir Gâr, Philip Davies bod profion wedi eu cynnal.

"Ar ôl canlyniadau cadarnhaol am DSP, rydyn ni a'n cydweithwyr yn Abertawe wedi gweithredu yn y modd priodol i gau'r gwelyau hyd nes ein bod ni'n hapus ei bod hi'n ddiogel i'r cyhoedd i fwyta cregyn y môr yn yr ardal hon.

"Mae swyddogion yn gosod arwyddion ar hyd mynedfeydd i'r gwelyau ac yn hysbysu casglwyr a chynhyrchwyr cregyn y môr bod yn rhaid rhoi'r gorau i'r gweithredoedd hyn am y tro.

"Rydyn ni'n deall gofidion casglwyr a chynhyrchwyr yn yr ardal a hoffem weld y gwelyau'n agor cyn gynted â phosib.

"Dydy cau'r gwelyau cregyn y môr ddim yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar ddefnydd hamddenol o'r traethau.

"Does dim risg i iechyd defnyddwyr y traeth, ond rhaid iddyn nhw beidio â chasglu neu fwyta cocos neu gregyn gleision."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cocos: Asiantaeth yn ymchwilio
27 Meh 08 |  Newyddion
Cocos: Pryder am ddiogelwch
11 Awst 05 |  Newyddion
Cocos i'w bwyta chydwybod glir
23 Awst 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific