British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 19 Ebrill 2009, 15:19 GMT 16:19 UK
Cau pyllau nofio: Protestio

Pwll nofio
Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau'r pwll

Mae aelodau o ddwy gymuned, yn y de a'r gogledd, wedi bod yn protestio ddydd Sul yn erbyn penderfyniadau i gau eu pyllau nofio.

Rhai o drigolion Harlech yng Ngwynedd a Threherbert yn Y Rhondda oedd yn lleisio'u gwrthwynebiad i gau'r pyllau.

Roedd tua 150 o ymgyrchwyr wedi cyfarfod ym maes parcio pwll nofio Harlech am 2.00pm cyn symud i Theatr Ardudwy am 2.15pm.

Yn eu mysg roedd cyn actores y rhaglen Eastenders, Charlie Brooks, a ddysgodd sut i nofio yn y pwll.

Dywed Cyngor Gwynedd bod y pwll "wedi cyrraedd diwedd ei oes" a'u bod wedi pryderu ers amser am "lefelau isel o ddefnydd".

Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd cyfleusterau chwaraeon - sy'n cynnwys 14 canolfan hamdden a chyflog 175 o staff - yn costio dros £3 miliwn y flwyddyn hon a bod angen cau pwll nofio Harlech er mwyn arbed arian.

Mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd cau'r pwll ym mis Mehefin yn arbed £160,000 y flwyddyn.

Mae'r pwll nofio agosaf ym Mhorthmadog sy'n daith 10 milltir.

'Siomedig iawn'

Dywedodd Richard Holland, sy'n defnyddio'r pwll, ei fod o'n 'siomedig iawn'.

"Mae yna griw o bobl sy'n ceisio achub y pwll," meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Roy Owen mai sefyllfa ariannol ddifrifol y Cyngor a chyflwr gwael rhai o gyfleusterau'r sir sydd i gyfrif am y toriadau.

"Mae llawer o'r cyfleusterau hyn yn hen ac yn cael eu defnyddio gan nifer cymharol fach."

Ychwanegodd y bydd y Cyngor yn "gweithio gyda'n partneriaid er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd creadigol o ddarparu cyfleoedd hamdden o'r radd flaenaf i bobl Gwynedd".

Mae rhai oedd yn defnyddio pwll nofio Treherbert yn cwrdd y tu allan i'r pwll am 4.30pm i wrthwynebu'r penderfyniad i gau.

Mae disgwyl i'r pwll hwnnw gau ddydd Llun. Dywed ymgyrchwyr yno y bydd yr adeilad hefyd yn debygol o ddenu fandaliaid pebai'n cau.



HEFYD
Protestio mewn cyfarfod cyngor
25 Maw 09 |  Newyddion
Codi canolfan ganwio olympaidd
14 Tach 08 |  Newyddion
Diwedd brwydr i achub pwll nofio
09 Hyd 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific