British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Ebrill 2009, 07:38 GMT 08:38 UK
Rhybudd: 'Byddwch yn ofalus'

Defaid
Cafodd y defaid eu dwyn o fferm ddiarffordd ym Mhowys

Mae ffermwyr wedi cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus ar ôl i fwy na 60 o ddefaid gael eu dwyn o fferm ddiarffordd.

Cafodd yr anifeiliaid eu dwyn o ardal Llanfyllin.

Dywedodd yr heddlu fod yr ardal wedi cael ei thargedu droeon oherwydd ei bod hi mor anghysbell.

"Mae ardaloedd Llanfihangel, Llanerfyl, Llwydiarth a Dolanog o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd," meddai'r Cwnstabl Kevin Jones.

"Ac maen nhw i gyd yr un mor wledig.

"Mae'r ardaloedd hyn wedi cael achosion o ladrata da byw o dro i dro ers blynyddoedd.

"Fel arfer, mae nifer fach o dda byw yn cael eu dwyn o gaeau ger lonydd gwledig ar nosweithiau pan mae'r lleuad allan."

Dywedodd y dylai ffermwyr gadw golwg ar eu da byw mor aml â phosib, cloi clwydi a chofnodi manylion unrhyw gerbydau allai gario da byw, yn enwedig y rhai min nos neu o dan amgylchiadau amheus.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Dyfed Powys yn Llanfyllin ar 0845 330 2000.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Pryder am ddwyn defaid
22 Tach 04 |  Newyddion
Plismon newydd i gefn gwlad
16 Rhag 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific