British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 16 Ebrill 2009, 11:17 GMT 12:17 UK
'Na' i forglawdd Hafren

Môr Hafren
Ymchwiliad: Morglawdd yn 'effeithio'n fawr yn economaidd'

Mae ymchwiliad i bŵer llanw ym Môr Hafren wedi gwrthod cynllun ar gyfer morglawdd gwerth miloedd o bunnoedd rhwng Weston-super-Mare a Chaerdydd.

Am flwyddyn bu ASau, ACau a chynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a gorllewin Lloegr yn ymchwilio.

Mae'r ymchwiliad, sy'n cyfeirio at bryder y gallai'r morglawdd fod yn niweidiol i'r aber, yn argymell morglawdd llai ger Ail Bont Hafren.

"Fe fyddai morglawdd mwy yn niweidiol i'r aber, yn dileu tua 80% o'r cynefin yno," meddai'r ymchwiliad.

Ac mae wedi dweud y byddai morglawdd mwy yn llai cost-effeithiol na'r morglawdd llai ac y byddai'n "effeithio'n fawr yn economaidd ar borthladd Bryste".

Fe wnaeth yr ymchwiliad gynnal sesiynau yng Nghaerdydd, Bryste a Portishead ac astudio dogfennau sydd eisoes wedi cael eu paratoi gan y llywodraeth.

Cadeirydd y comisiwn oedd yr AC Mike German ac AS Northavon Steve Webb.

"Rydym yn credu bod y morglawdd llai yn cynnig gwell amrywiaeth o opsiynau ... a chyfle ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus drwy Gymru a Gorllewin Lloegr," meddai Mr Webb.



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific