Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 10:47am
|
Mae bachgen pump oed yn cael triniaeth yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth oherwydd anafiadau i'w ben.
Am 10:47 fore Mercher cafodd Heddlu Gogledd Cymru alwad yn dweud bod craig wedi disgyn ar y bachgen wrth iddo gerdded i fyny Cadair Idris.
Cafodd Tîm Achub Mynydd De Eryri, y Gwasanaeth Ambiwlans a hofrennydd y Llu Awyr eu galw.
Aed â'r bachgen, y credir ei fod yn dod o Sir Gaerlŷr, mewn hofrennydd i Ysbyty Bronglais.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd ei anafiadau'n ddifrifol.
|