British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 15 Ebrill 2009, 15:30 GMT 16:30 UK
Rali GB Cymru dan fygythiad

Car Rali
Mae'r mudiad yn bwriadu mynd i'r llys oherwydd torgytundeb honedig

Mae 'na bryder na fydd Rali GB Cymru yn cael ei chynnal ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad dynnu £2 filiwn o gyllid yn ôl.

Er bod 'na cytundeb rhwng Hydref 22 hyd at rali 2011, dywedodd trefnwyr eu bod "wedi cael sioc ac yn siomedig".

Yn ôl International Motor Sports Limited (IMS), does ganddyn nhw ddim dewis ond mynd i'r llys oherwydd torgytundeb honedig.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd yn addas ymateb ar hyn o bryd.

Mewn datganiad fe ddywedodd yr IMS bod rali 2009 "o dan fygythiad".

Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, ba mor bwysig oedd y rali nôl yn 2007
Andrew Coe, prif weithredwr IMS

"Doedd 'na ddim ymgynghoriad na rhybudd ... cyn iddyn nhw benderfynu torri cyllid Rali GB Cymru.

"Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, ba mor bwysig oedd y digwyddiad nôl yn 2007, gan fynnu bod y rali yn codi proffil Cymru ac yn rhoi hwb i'r sector moduro".

'Torri cytundeb'

Mae Prif Weithredwr IMS Andrew Coe wedi honni bod y cytundeb gafodd ei arwyddo gan Lywodraeth y Cynulliad ar Fawrth 30, 2006 hyd at ddiwedd rali 2011 wedi cael ei dorri.

Mae torri'r cyllid yn tanseilio'r ymdrechion i gynnal digwyddiadau ar lefel Brydeinig yng Nghymru
Alun Cairns o'r Blaid Geidwadol

Ychwanegodd: "Mae'r paratoadau ar gyfer Rali GB Cymru ym mis Hydref yn mynd yn dda ac mae disgwyl y bydd y digwyddiad yn cael ei lansio ddiwedd y mis.

Fe ddywedodd AC y Ceidwadwyr Alun Cairns: "Os yw Cymru eisiau cynnal digwyddiadau a gemau chwaraeon ar lefel Brydeinig mae angen cael cefnogaeth oddi wrth y llywodraeth.

"Mae'r adroddiadau hyn bod y gweinidogion eisiau torri'r cyllid ar gyfer Rali GB Cymru ar fyr rybudd yn tanseilio'r ymdrechion hyn.

"Ac maen nhw'n tanseilio ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddenu digwyddiadau mawr fel Cyfres y Lludw a Chwpan Ryder i Gymru."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
'Gwneud mwy' i ddenu digwyddiadau
11 Rhag 08 |  Newyddion
Rali: Gyrrwr yn pasio ei brawf
25 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific