British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Ebrill 2009, 18:18 GMT 19:18 UK
Taro car heddlu: Arestio dau

Car ar ben car heddlu
Roedd y car wedi glanio ar ben car yr heddlu

Cafodd dau eu harestio yn ardal Glandŵr, Abertawe, ar ôl iddyn nhw daro car heddlu.

Roedd yr heddlu wedi ceisio stopio'r car Nissan Torino ar hap ger Capel Siloh am 3.30pm brynhawn Mawrth - cyn iddo symud am yn ôl a glanio ar ben car yr heddlu.

Aed â phlismon i'r ysbyty ond chafodd e ddim ei anafu.

Ceisiodd y ddau ddianc ar droed cyn cael eu harestio am 3.40pm.

Dywedodd yr Arolygydd Carwyn Evans, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Hwn yw un o'r pethe gwaetha dwi wedi eu gweld.

"Roedd 'na berygl eu bod nhw'n mynd i ladd y plismon yn y car.

"Hoffwn i dalu teyrnged i'r plismon oherwydd ei ddewrder a'i ymroddiad wrth redeg ar ôl y ddau ddyn a'u harestio."

Mae'r ddau yn y ddalfa yn Abertawe.

Mae disgwyl i Heol Siloh fod ar gau am gyfnod nos Fawrth wrth i'r heddlu gwblhau'r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 01792 456999.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific