British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Ebrill 2009, 15:45 GMT 16:45 UK
Ymddiheuro am sylwadau

Safle Twitter David Taylor
Tynnodd David Taylor ei sylwadau yn l oddi ar wefan Twitter

Mae cynorthwy-ydd gweinidog Llafur yn Llywodraeth y Cynulliad wedi ymddiheuro oherwydd ei sylwadau sarhaus am gefnogwyr Tîm Pêl-droed Lerpwl a thrychineb Hillsborough.

Dywedodd David Taylor nad oedd wedi sylweddoli y byddai modd cysylltu ei sylwadau â'r drychineb yn Sheffield ym 1989 pan gafodd 96 o gefnogwyr eu lladd yn stadiwm Hillsborough.

Roedd wedi ysgrifennu'r geiriau "You'll never walk again" ar ôl dweud ei fod e'n casàu cefnogwyr Lerpwl.

Dywedodd ymchwilydd y Diprwy Weinidog Adfywio, Leighton Andrews, ei fod yn teimlo cywilydd oherwydd effaith ei sylwadau.

Roedd ei sylwadau'r wythnos ddiwethaf ar wefan Twitter yn ystod gêm go-gyn-derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Lerpwl a Chelsea.

Mae'r geiriau'n chwarae â theitl y gân "You'll Never Walk Alone," anthem clwb Lerpwl.

Fe wnaeth ei sylwadau wythnos cyn cofio'r drychineb yn Sheffield.

Cafodd y cefnogwyr eu lladd yn ystod rownd gyn-derfynol Cwpan FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.

Dywedodd Mr Taylor: "Doedd 'da fi ddim syniad eu bod yn ymwneud â Hillsborough. Rwy'n teimlo cywilydd mawr ...

'Ddim yn fwriadol'

"Efallai fy mod i'n esgeulus.

"Mae'n flin 'da fi os gwnes i sarhau unrhyw un. Doedd e ddim yn fwriadol."

Dywedodd ei fod yn ymddiheuro os oedd wedi sarhau teuluoedd y sawl gafodd eu lladd.

Roedd yr ymddiheuriad ar wefan wleidyddol aneuringlyndwr.com.

Eisoes cafodd y wefan ei beirniadu am fod darlun o arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, fel fampir, a Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru fel clown.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific