British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Ebrill 2009, 10:34 GMT 11:34 UK
Achub dringwyr oddi ar Eryri

Hofrennydd
Cafodd dringwyr eu cludo i Ysbyty Gwynedd Bangor

Bu'n rhaid i hofrennydd yr awyrlu a 25 aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis achub nifer o bobl yn Eryri ddydd Sul.

Syrthiodd dyn a thorri ei bigwrn ar Gyrn Las a syrthiodd menyw 61 oed a thorri ei phigwrn ar lwybr arall.

Fe wnaeth dyn 50 oed dorri ei goes ar Liwedd Bach.

Cafodd dyn 50 oed anaf i'w bigwrn a chafodd hofrennydd yr awyrlu ei alw i helpu dyn 52 oed a oedd yn dioddef poenau yn ei frest.

Cafodd y pump eu cludo i Ysbyty Gwynedd Bangor.

Cyrsiau

Mae mynyddwyr a cherddwyr profiadol yn cynnal cyrsiau i geisio lleihau'r nifer o ddamweiniau.

Y rhai sy'n cynnal y cwrs yw Tîm Achub Mynydd y Gogledd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu'r Gogledd.

Yn ôl y trefnwyr, mae mwyafrif y rhai sy'n mynd i drafferth yn byw y tu allan i ogledd Cymru.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu hanafu o dde-ddwyrain Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr.

Yn ôl arolwg, dynion rhwng 21 a 30 oed oedd y rhai mwyaf tebygol o fynd i drafferth.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Damwain mynydd: Yn yr ysbyty
29 Rhag 08 |  Newyddion
Tîm mynydd yn achub myfyrwyr
26 Rhag 08 |  Newyddion
Dringo: Delwedd newydd i gwmni
14 Rhag 08 |  Newyddion
Eryri: 'Llwyddiant' cynllun £5m
04 Rhag 08 |  Newyddion
Dyn 32 oed wedi marw yn Eryri
17 Meh 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific