Bydd y carchar ar gyn-safle ffatri Ferodo ger Caernarfon
|
Mae wedi dod i'r amlwg y bydd agor carchar newydd ger Caernarfon yn golygu "cannoedd yn llai o swyddi" na'r disgwyl.
Roedd rhai wedi gobeithio y byddai'r carchar yn creu 1,000 o swyddi parhaol.
Ond mae llefarydd Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydd y carchar lle bydd hyd at 600 o droseddwyr yn debyg o gyflogi rhwng 600 a 700.
Y disgwyl yw y bydd hyn yn dod â £7 miliwn i mewn i'r economi leol bob blwyddyn.
2012
Mae'n debyg mai carchar Adran B neu C fydd ger Caernarfon ac yn bennaf ar gyfer troseddwyr gogledd Cymru.
Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau tua diwedd 2012.
Dywedodd llefarydd o'r cyngor: "Mae'r gwaith paratoi ar gyfer agor y carchar wedi dechrau fel y gall pobl Gwynedd fanteisio ar y cyfleon economaidd ddaw yn sgîl y datblygiad.
Hyfforddi
"Fydd drysau'r carchar ddim yn agor am beth amser ond rwan yw'r amser i ddechrau hyfforddi a pharatoi'r gweithwyr ar ei gyfer a bydd y cyngor yn cydweithio'n agos ag ysgolion a cholegau'r sir yn ogystal â Phrifysgol Bangor i greu pecynnau hyfforddi ...
"Mae'r cyngor wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ystyried cynnwys uned troseddwyr ifanc yn y carchar.
"Yn y cyfamser, mae trafodaethau'n parhau am union natur y carchar ...
"Y weinyddiaeth fydd yn penderfynu cynllun a natur y carchar ynghyd â faint o droseddwyr fydd ynddo cyn iddyn nhw gyflwyno cais cynllunio i ni, yr awdurdod cynllunio lleol."
|