Mae swyddogion yn ymchwilio i achosion o'r frech goch
|
Mae swyddogion iechyd wedi dweud y gallai hyd at 80,000 o blant yng Nghymru ddal y frech goch oherwydd nad ydyn nhw wedi cael dau frechiad MMR.
Daw'r rhybudd wrth i swyddogion ymchwilio i achosion o'r frech goch yn y de a'r gogledd.
Y gred yw bod hyd at 22, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n blant, wedi dal y clefyd yn ardal Llandudno.
Eisoes mae pedwar achos wedi eu cadarnhau.
Mae'r profion yn cael eu cynnal ar blant Ysgol Gynradd Ffordd Dyffryn ac Ysgol Uwchradd John Bright.
Yn y de-orllewin mae dau achos wedi eu cadarnhau - a phrofion yn cael eu cynnal oherwydd 18 o achosion eraill yn ardaloedd Penfro, Doc Penfro, Llanelli a Phorth Tywyn.
Gostyngiad
Dywedodd arbenigwyr nad oedden nhw'n credu fod yna unrhyw gysylltiad rhwng achosion y de orllewin a rhai'r gogledd.
Yn ôl Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, bu gostyngiad yn nifer y rhieni oedd yn brechu eu plant ar ddiwedd y 90au.
Roedd hynny oherwydd adroddiad, sydd bellach wedi brofi'n anghywir, oedd yn awgrymu cysylltiad rhwng brechiad MMR ag awtistiaeth.
Os yw plentyn yn sâl a rhieni'n amau'r frech goch, dylen nhw gysylltu â'r meddyg teulu.
"Ni ddylai'r plentyn fynd i'r ysgol na'r feithrinfa am bum niwrnod ar ôl canfod arwyddion o'r frech," meddai Dr Walapu, ymgynghorydd rheoli haint y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.
|