British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Ebrill 2009, 06:43 GMT 07:43 UK
Ymchwil nadroedd yn achub bywydau

Axel Barlow
Gallai'r ymchwil newydd achub bywydau

Mae ymchwil myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn dangos fod yr hyn y mae neidr yn ei fwyta yn effeithio ar gryfder ei wenwyn.

Ac maec darganfyddiad Axel Barlow yn golygu y bydd modd datblygu gwrthwenwyn.

Er engraifft, mae'r ymchwil yn dangos fod gwenwyn y gwiberod cenllif sy'n bwyta sgorpiynau yn fwy gwenwynig i sgorpiynau.

Gobaith ymchwilwyr yw y bydd hyn yn arwain at lai o farwolaethau oherwydd brathiadau nadroedd.

Triniaeth gwrthwenwyn

Dywed Mr Barlow fod amrywiaeth yn natur gwenwyn nadroedd o ardal i ardal yn cymhlethu triniaeth gwrthwenwyn.

Y gwiberod cenllif sy'n gyfrifol am y mwyafrif o farwolaethau yn Affrica am fod y cyfandir yn mewnforio gwrthwenwyn o Asia, meddai.

Saw-scaled viper
Mae gwenwyn gwiberod cenllif wedi esblygu'n wahanol yn dibynnu ar eu deiet.

O ganlyniad, dyw'r gwrthwenwyn o Asia ddim yn gweithio yn Affrica ac mae llawer yn marw yn ddiangen o frathiadau.

Ychwanegodd Axel Barlow: "Mae'r gwiberod cenllif yn neidr da i'w astudio gan fod y mathau gwahanol yn bwyta deiet hollol wahanol.

"Mae hyn yn golygu y gallwn ni ymchwilio i effaith y deiet gwahanol ar fathau gwahanol o neidr o fewn un rywogaeth."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific