Darlun artist o safle Gwesty'r Grange
|
Gallai gwesty a ddifrodwyd yn lwyr gan dân gael ei droi'n 28 o fflatiau o dan gynllun newydd.
Mae cwmni penseiri JPH yn argymell dymchwel y lle'n rhannol ac yna adnewyddu hen westy'r Grange yn y Rhyl.
Roedd Cyngor Sir Ddnibych wedi gwrthod cais blaenorol am nad oedd hi'n glir beth fyddai'n cymeryd lle'r adeilad cofestredig graddfa 2.
Dywedodd llefarydd o'r cyngor eu bod mewn cyfnod ymgynghorol, ac y byddai penderfynaid terfynol yn cael ei wneud ddiwedd mis Mai.
'Treftadaeth Y Rhyl'
Mae'r adeilad hanesyddol wedi bod yn wag ac wedi ei fandaleiddio ers iddo gael ei roi ar dân yn fwriadol ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Dywedodd John Holden o gwmni JPH: "Ry'n ni am achub cymaint o'r adeilad ag sy'n bosib - mae'n rhan o dreftadaeth Y Rhyl.
"Roedd peth gwrthwynebiad i newid pwrpas yr adeilad, ond rydym yn credu na fydadi'n goroesi fel gwesty yn wyneb y cwymp yn y diwydiant twristiaeth.
"Gallai'r fflatiau fod yn aml-bwrpas, gan gynnwys fflatiau gwyliau. Does dim penderfyniad wedi'i wneud eto."
Dywedodd lefarydd y cyngor fod y broses ymgynghorol yn cynnwys ystyried effaith y cynlluniau newydd ar yr adeilad cofrestredig.
Ychwanegodd: "Mae angen i ni sicrhau fod pawb yn hapus gyda'r defnydd newydd o'r tir yma."
Dywedodd llefarydd o Cadw - corff treftadaeth Llywodraeth Y Cynulliad: "Mae Cadw yn croesawu cynlluniau i roi defnydd newydd a chynaliadwy i hen adeiladau cofrestredig sydd ddim bellach yn cael eu defnyddio."
|