British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 6 Ebrill 2009, 19:14 GMT 20:14 UK
Colli swyddi yn ffatri Kellogg's

Cynnyrch y cwmni
Mae'r ffatri yn paratoi grawnfwyd brecwast

Mae hyd at 40 o bobl yn colli eu gwaith yn ffatri Kellogg's yn Wrecsam.

Dywedodd y cwmni bod hyn yn rhan o adolygiad hir-dymor y cwmni.

Maen nhw'n gwadu bod ganddo ddim i'w wneud yn uniongyrchol a'r dirwasgiad.

Caiff 512 o bobl eu cyflogi yn y ffatri ar stad ddiwydiannol y dref.

Dywed y cwmni eu bod yn dal yn ymroddedig i'r dref.

Mae proses ymgynghorol wedi cychwyn rhwng y cwmni a'r undebau.

Dywed y cwmni eu bod yn obeithiol y bydd mwyafrif y swyddi yn cael eu colli drwy ddiswyddiadau gwirfoddol.

Mae'r ffatri wedi bod yn Wrecsam ers 31 mlynedd.



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific