British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 3 Ebrill 2009, 07:37 GMT 08:37 UK
AS yn galw am fridio gwenyn

Gwenyn
Mae ymgrych i fridio mwy o wenyn i ymladd yn erbyn heintiau

Mae Aelod Seneddol wedi galw am fridio rhagor o wenyn mewn ymgais i fynd i'r afael â'r bygythiad o heintiau.

Mae nifer y gwenyn yn y Deyrnas Unedig wedi gostwng 10%-15%, ac mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu difetha gan haint ar ôl i baraseit ymosod arnyn nhw.

Dywedodd AS Brycheiniog a Maesyfed, Roger Williams, y byddai rhaglen fridio'n helpu gwenyn i ymladd yr haint varroa.

Mae 'na bryder y gallai prinder gwenyn olygu bod llai o gnydau'n cael eu peillio.

Dywedodd Mr Williams, sy'n llefarydd materion bwyd a gwledig y Democratiaid Rhyddfrydol, fod gwenyn yn chwarae "rhan hanfodol wrth gynhyrchu bwyd" drwy beillio.

Roedd Mr Williams yn annerch Tŷ'r Cyffredin am fwyd a'r amgylchedd ddydd Iau.

'Symud yn gyflym'

"Dylai'r llywodraeth gyflwyno prosiect bridio er mwyn cyflwyno mathau o wenyn sy'n gallu ymladd yn erbyn varroa, ac na fyddai angen triniaeth gemegol arnyn nhw.

"Roedd yr ymateb ges i gan yr ysgrifennydd gwladol yn galonogol.

"Er na wnaeth e ymrwymo i raglen fridio gwenyn, fe gynigiodd e edrych ar ble mae arian yn mynd a gweld os oes 'na fylchau sydd angen ymdrin â nhw.

"Gobeithio y bydd ei adran yn symud yn gyflym ar y mater er mwyn sicrhau nad yw'r boblogaeth bresennol o wenyn yn disgyn ymhellach."

Fis diwethaf, cyfaddefodd gwas sifil nad oedd ymchwil i afiechydon gwenyn wedi bod yn "flaenoriaeth" er gwaetha pryderon cynyddol am y boblogaeth yn gostwng.

Ond dywedodd y Fonesig Helen Ghosh o adran Defra fod mwy fyth o arian yn cael ei fuddsoddi i ddatrys y trafferthion.

Dywedodd fod y llywodraeth wedi sylweddoli bod pryderon gan y rhai sy'n cadw gwenyn, a'i bod wedi cyhoeddi "cynllun gwenyn iach", fyddai'n gyfrifol am ymchwil a rheoli afiechydon, a nifer o bryderon eraill.

Ychwanegodd y bydd Defra yn neilltuo £500,000 ychwanegol y flwyddyn, yn ogystal â'r arian sy'n cael ei fuddsoddi gan bartneriaid.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Prinder Gwenyn: Effaith ar afalau
04 Hyd 08 |  Newyddion
Annog mwy i gadw gwenyn
03 Mai 07 |  Newyddion
Arian loteri i achub gwenyn
21 Mai 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific