British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 1 Ebrill 2009, 13:37 GMT 14:37 UK
Rhybudd swyddogol i Henson

Gavin Henson (yn y cylch)
Gavin Henson (yn y cylch) yng nghanol Caerdydd

Mae chwaraewr rygbi Cymru, Gavin Henson, wedi cael rhybudd gan yr heddlu oedd yn ymchwilio i ymosodiad honedig.

Roedd Henson allan gyda thri o'i gyd-chwaraewyr o dîm Cymru.

Roedd seren y Gweilch 27 oed ac Andy Powell, Rhys Thomas a Jonathan Thomas eisoes wedi ymddiheuro i Undeb Rygbi Cymru am eu hymddygiad.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi ymchwilio i ymosodiad honedig ar Heol yr Eglwys Fair yng Nghaerdydd ar Chwefror 15.

Fe ychwanegon nhw fod dyn 27 oed wedi cael rhybudd "mewn cysylltiad â'r digwyddiad".

Gêm Lloegr

Dywedodd llefarydd fod yr ymosodiad honedig wedi digwydd tua 9pm.

Roedd Henson a'i gyd-chwaraewyr wedi bod allan yng Nghaerdydd y diwrnod ar ôl buddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Y Chwe Gwlad.

Roedd y pedwar wedi cyfadde i "ymddygiad oedd yn destun gofid ...," yn ôl datganiad Undeb Rygbi Cymru ar y pryd.

Yn y cyfamser, fydd Henson ddim ar gael i chwarae am hyd at chwe wythnos oherwydd anaf i'w ffêr.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Ymddiheuro am ymddygiad anffodus
19 Chwef 09 |  Newyddion
Trn: Dirwy i ffrindiau Henson
14 Ion 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific