Y tirwedd o amgylch Castell Penrhyn sydd yn y lluniau
Fe fydd casgliad o luniau sydd heb eu gweld o'r blaen yn cael eu harddangos yng Nghastell Penrhyn ger Bangor.
Lluniau dyfrlliw gan y Foneddiges Alice Douglas Pennant ydi'r lluniau yma.
Roedd y Foneddiges Alice yn un o 15 o blant yr Arglwydd Penrhyn a bu hi farw 70 mlynedd yn ôl.
Cafodd y gwaith eu cadw ers hynny heb eu fframio.
Yn ogystal â bod yn arlunydd roedd y Foneddiges Alice yn gyfrifol am nodi casgliad celf Castell Penrhyn sy'n dal i fodoli heddiw.
"Rydym yn hynod o falch o allu arddangos y lluniau i'r cyhoedd," meddai Clare Turgoose, curadur yn y castell.
Roedd Y Foneddiges Alice Douglas Pennant yn drydydd plentyn i Arglwydd Penrhyn
"Doedd y lluniau ddim wedi cael eu fframio tan nawr ac fe fydd yn arbennig gweld y casgliad cyfan yn cael eu harddangos.
"Roedd hi'n wraig ryfeddol iawn," ychwanegodd.
Honnir mai'r Foneddiges Alice oedd hoff wyres ei thaid, yr Arglwydd Penrhyn cyntaf wnaeth ei hysbrydoli i fwynhau celf.
Daeth ei gwybodaeth am luniau a byd celf o'i phlentyndod oedd wedi ei amgylchynu gan waith Rembrandt, Canaletto a Gainsborough.
Y lluniau fydd i'w gweld yn y castell ydi darluniau o'r tirwedd lleol.
"Gallwn weld ei bod yn arlunydd arbennig iawn," meddai rheolwr addysg a chyfathrebu Castell Penrhyn.
"Mae 'na amrywiaeth o steil.
"Mae'n braf gweld un o aelodau benywaidd y teulu yn cael sylw."
Fe fydd y lluniau i'w gweld yn y castell rhwng Ebrill 1-27 a rhwng Medi 25 a Thachwedd 1.
|