British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2009, 10:24 GMT 11:24 UK
Gwefan newydd i ieuenctid

Gwefan Gwynedd-Ni
Gwynedd-Ni yw enw'r wefan newydd

Lansiwyd gwefan newydd ar gyfer plant, pobl ifanc a teuluoedd Gwynedd a fydd yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ar nifer o bynciau megis iechyd a lles neu weithgareddau a gwasanaethau.

Gwynedd-Ni yw enw'r wefan newydd ac fe drefnwyd y lansiad ar y cyd gyda Grŵp Barn Pobl Ifanc Gwynedd.

Gweithdy

Roedd y cyfarfod yn gyfle arall i Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd i glywed barn pobl ifanc a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am y gwasanaeth.

Roedd y gweithdy yn Harlech yn gyfle i bobl ifanc ddysgu am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt, ac yn gyfle i bobl sy'n cynnal y gwasanaethau, megis yr Heddlu a Gyrfa Cymru, glywed am ofidiau'r genhedlaeth ifanc.

Mae llawer o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma - gwaith ysgol a choleg, effeithiau teulu yn chwalu, pwysau gan gyfoedion, effeithiau cyffuriau anghyfreithiol
Y Cynghorydd Gwen Griffith

Bydd y wefan newydd yn ddolen gyswllt rhwng teuluoedd Gwynedd a gwasanaethau pwysig drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor.

Mae gwahanol adrannau o'r wefan yn arbennig ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, er enghraifft gwybodaeth am bryd mae'r nyrs ar gael yn yr ysgolion uwchradd; gwybodaeth a chyngor am ddiod feddwol a chyffuriau anghyfreithlon i rai sy'n eu harddegau; cymorth i fyw yn iach ar gyfer plant iau.

Mae'r wefan hefyd yn rhestru gweithgareddau a all fod o ddiddordeb i bobl ifanc fel cyfleon ym myd celfyddydau neu i gymryd rhan mewn chwaraeon.

'Penderfyniadau iawn'

Dywedodd y Cynghorydd Gwen Griffith, Arweinydd Arweiniol Plant Cyngor Gwynedd:

"Roedd y cyfarfod yn gyfle gwych i bobl ifanc drafod eu pryderon, a phryderon plant eraill, efo'r rhai sy'n cynnal gwasanaethau.

"Mae llawer o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma - gwaith ysgol a choleg, effeithiau teulu yn chwalu, pwysau gan gyfoedion, effeithiau cyffuriau anghyfreithiol.

"Rydw i'n gefnogol o bob arf y gallwn ei ddatblygu i amddiffyn ein plant ac o ffyrdd o'u hannog i wneud y penderfyniadau iawn dros eu hunain."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Senedd Yr Ifanc: Trafod ieuenctid
25 Maw 09 |  Newyddion
Prosiect £49m i helpu ieuenctid
05 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific