British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Mawrth 2009, 07:07 GMT 08:07 UK
Maes awyr: Damwain

Hofrennydd
Cafodd diffoddwyr tn eu galw am 2.14pm

Mae heddlu'n ymchwilio i'r ddamwain hofrennydd ym maes awyr Abertawe lle cafodd dyn anafiadau difrifol.

Dywedodd diffoddwyr tân fod y dyn wedi cael anafiadau i'w ben ac y cafodd ei gludo i ysbyty Treforus brynhawn Sul.

Mae e mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd dyn arall - y peilot - fân anafiadau i'w ben yn y ddamwain.

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion i'r ddamwain i gysylltu â nhw, ac mae nhw'n ymchwilio ar y cyd gyda'r Uned Ymchwilio Damweiniau Awyr.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch hefyd yn edrych ar y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd fod teuluoedd y ddau ddyn wedi cael gwybod am y ddamwain.

Hofrennydd ysgafn Robinson R44 oedd yn y ddamwain oedd mewn perchnogaeth breifat, ac fe darodd y ddaear tua 1400.

Clec uchel

Soniodd tystion iddyn nhw glywed clec uchel wrth i rotor yr hofrennydd daro'r ddaear cyn i'r hofrennydd ei hun droi ar ei ochr.

Sonion nhw hefyd iddyn nhw glywed darnau - o'r hofrennydd mwy na thebyg - yn hedfan heibio iddyn nhw mor bell i ffwrdd â maes parcio'r maes awyr.

Rhedodd gweithwyr y maes awyr i gynorthwyo, ac fe lwyddodd dau ohonyn nhw i helpu'r ddau ddyn i ffwrdd o safle'r ddamwain.

Mae gan ambiwlans awyr y de safle yn y maes awyr ac fe aethon nhw â'r dyn i Ysbyty Treforus lle mae e'n dal i gael triniaeth.

Doedd y peilot ddim wedi'i anafu'n ddrwg, ac fe gerddodd i ffwrdd er ei fod yntau hefyd wedi cael triniaeth am anafiadau i'w ben.

Dywedodd llefarydd o'r Uned Ymchwilio Damweiniau Awyr: "Rydym yn ymchwilio i'r digwyddiad, ond fyddwn ni ddim yn gyrru ymchwilwyr i'r safle.

"Bydd yr ymchwiliad ar ffurf edrych ar adroddiad ar bapur gan y peilot."

Dylai unrhyw dystion gysylltu gyda'r heddlu ar 01792 456999.



Chwiliwch yn Gymraeg



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific