British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 26 Mawrth 2009, 08:16 GMT
Cyngor atal ysmygu i gleifion

Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan
Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan

Bydd cleifion sy'n aros am lawdriniaeth yn cael cynnig cwnsela arbennig er mwyn rhoi'r gorau iddi.

Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yw'r diweddara i fabwysiadu'r cynllun fydd, mae nhw'n gobeithio, yn lleihau cymlethdodau yn dilyn llawdriniaeth.

Amcangyfrif swyddogion yw y gall rhoi'r gorau i smygu wyth wythnos cyn cael llawdriniaeth olygu arbed 7,000 o 'ddyddiau mewn gwely' bob blwyddyn yn ysbytai Cymru.

Dywedodd Richard Waterson, rheolwr prosiect llawdriniaeth ddydd yn Ysbyty Glan Clwyd:

"Mae rhoi'r gorau i ysmygu wedi llawdriniaeth yn anog cleifion i gymeryd mwy o gyfrifoldeb dros leihau'r amser gwell drwy stopio cyn cael triniaeth o'r fath."

Cymlethdodau

Mae cynllun hefyd wedi cael cefnogaeth Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd y cyfarwyddwr rhanbarthol Andrew Jones: "Mae smygwyr sy'n rhoi'r gorau iddi cyn cael llawdriniaeth yn llawer llai tebygol o ddiodde o broblemau anadlu a'r ysgyfaint, diodde heintiau a gwella briwiau yn araf.

"Fe allen nhw aros yn yr ysbyty am lai o amser yn ogystal."

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus yn amcangyfrif bod 6,000 o bobl yng Nghymru yn maraw bob blwyddyn o glefydau'n ymwneud ag ysmygu.

Mae'r rhai sy'n cefnogi'r cynllun yn dweud y gallai annog pobl i rhoi'r gorau i ysmygu cyn llawdriniaeth arbed 1,500 o gymlethdodau meddygol bob blwyddyn, ac arbed hyd at £2.3 miliwn i'r GIG.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Smygwyr yn sarhau staff
17 Maw 09 |  Newyddion
Talu'n ddrud am ysmygu
25 Gorff 08 |  Newyddion
Gwahardd ysmygu: 'Llwyddiant'
02 Ebr 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific