Mae 'na ofid bod enw Rhydfelen wedi cael ei golli
|
Bu'n rhaid gohirio cyfarfod o Gyngor Rhondda Cynon Taf brynhawn Mercher ar ôl i brotestwyr sy'n gwrthwynebu cau Pwll Nofio Treherbert eistedd yn seddi'r cynghorwyr yn siambr y cyngor.
Roedd nifer o bobl ifanc yno hefyd am fod y cyngor wedi bwriadu trafod y posibilrwydd o newid enw Ysgol Gyfun Gartholwg yn ôl i Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Roedd disgyblion Ysgol Gyfun Gartholwg y tu allan i adeilad Cyngor Rhondda Cynon Taf yng Nghwm Clydach i bwyso ar y cyngor i gadw hen enw eu hysgol, sef Rhydfelen.
Roedd un o gyn-ddisgyblion Ysgol Rhydfelen mor flin nad oedd y cyngor wedi trafod enw'r ysgol aeth e ati i geisio rhwystro'r cynghorwyr rhag mynd adre.
Cafodd Ysgol Gyfun Rhydfelen ei hagor yn 1962 ym mhentref Rhydyfelin ger Pontypridd, a hon oedd yr ail ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghymru. Y gyntaf oedd Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, yn 1956.
Mae Ysgol Gyfun Gartholwg yn rhan o gampws cymunedol gwerth £42m ar safle Gartholwg ym Mhentre'r Eglwys ger Pontypridd.
Ar y safle mae canolfan addysg, meithrinfa, llyfrgell a chyfleusterau chwaraeon.
|