British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Mawrth 2009, 11:32 GMT
Colli swyddi blwyddyn wedi achub busnes

Anson logo

Bydd 62 o swyddi'n cael eu colli wrth i ffatri becynnu bwyd yn Wrecsam gau - llai na blwyddyn wedi i'r busnes gael ei achub rhag mynd i ddwylo'r derbynnydd.

Yn dilyn cyfnod ymgynghori o 30 diwrnod, mae staff yn ffatri Anson ar stâd ddiwydiannol Queensway wedi derbyn rhybudd diswyddo.

Mae rhai wedi bod yn gweithio ond tridiau yr wythnos ers diwedd y llynedd oherwydd cwymp yn nifer archebion y cwmni.

Nawr mae nhw wedi cael clywed y bydd y ffatri'n cau yn gyfangwbwl cyn Mehefin 19 wrth i'r gwaith gael ei drosglwyddo i ddwy ffatri y cwmni yn Sir Caergrawnt.

Mae'r ffatri, fu ar agor ers 15 mlynedd, yn cyflenwi deunydd pecynnu i'w diwydiant pobi a theisennau.

Diffyg archebion

Mis Mehefin y llynedd fe aeth cyn berchnogion y ffatri, EP Packaging, i ddwylo'r derbynnydd, ond fe gafodd y busnes ei gymeryd drosodd yn syth gan gwmni Anson heb golli unrhyw swyddi.

Ond fe gafodd y staff rhybudd y mis diwethaf gan reolwyr y byddai'r ffatri'n cau onibai fod archebion yn gwella.

Dywedodd rheolwr cynhyrchu'r ffatri, John Roden: "Mae'n ergyd drist. Mae pawb wedi acel rhybudd diswyddo, ac rydym yn y broses o drafod gyda'r gweithlu am yr hyn mae hynny'n olygu.

"Rydym yn hefyd yn trafod gyda chanolfannau gwaith i weld os fedran nhw gynnig cymorth.

"Efallai bydd un neu ddau yn cael y cyfle i symud i un o'r ddwy ffatri arall yn Haddenham a Sutton, ond mae yna ad-drefnu yno hefyd felly mae'n bosib bydd rhai yn colli'u gwaith yno hefyd."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Airbus: Colli 250 o swyddi
23 Maw 09 |  Newyddion
Ffatri: Colli 80 o swyddi?
19 Maw 09 |  Newyddion
Nifer di-waith yn fwy na 100,000
18 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific