British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 25 Mawrth 2009, 11:19 GMT
Senedd Yr Ifanc: Trafod ieuenctid

Neuadd y Dref Wrecsam
Bydd Senedd Yr Ifanc yn rhoi llais i bobl ifanc lleol yn Wrecsam
Fe fydd gan bobl ifanc y cyfle i drafod materion ieuenctid sy'n effeithio arnyn nhw, wrth i 'Senedd Yr Ifanc' gael ei sefydlu mewn tre.

Mae 'Fforwm Ieuenctid' eisoes yn bodoli yn Wrecsam, sy'n rhoi llais i bobl ifanc o ran democratiaeth a pholisïau perthnasol, yn lleol ac yn genedlaethol.

Bwriad Senedd Yr Ifanc yw adeiladu ar waith y fforwm.

Fe fydd oddeutu 50 o bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed yn rhan o'r senedd, wedi eu hethol o dri fforwm ieuenctid yn ardal Wrecsam.

Mae datblygu Senedd yr Ifanc yn cydnabod bod gan bob plentyn a pherson ifanc lais
Aled Roberts

Arweinydd Cyngor Wrecsam

Fe fydd y fforymau lleol yn cwrdd bob wythnos i drafod materion o bwys lleol, ac fe fydd y drafodaeth yn parhau ymhlith cynrychiolwyr Senedd yr Ifanc.

Cafodd y Fforwm Ieuenctid ei sefydlu yn 2001, gyda chynrychiolwyr o nifer o agweddau ar fywyd pobl ifanc yn nhre Wrecsam.

Mae 'na gynrychiolwyr o gynghorau ysgolion, Fforymau Ieuenctid Cymunedau'n Gyntaf, theatrau lleol a bandiau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, Aled Roberts: "Mae datblygu 'Senedd yr Ifanc yn unol ag ymrwymiad y Cyngor i gydnabod bod gan bob plentyn a pherson ifanc lais, a'u galluogi i ddefnyddio'n effeithiol.

"Nid yn unig y bydd ei greu yn fuddiol i bobl ifanc yr ardal, ond hefyd yr awdurdod."

Ychwanegodd Mr Roberts y byddai Senedd Yr Ifanc yn cynnig cymorth i sefydliadau wrth iddyn nhw geisio barn pobl ifanc am faterion o bwys ac wrth benderfynu ar bolisïau.

Ychwanegodd: "Byddai hefyd yn cynnig y cyfle i aelodau'r 'Senedd' ymgynghori ar ddogfennau swyddogol, gan roi mwy o fewnbwn a chynrychiolaeth iddyn nhw."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cyfle i ieuenctid yn y Cynulliad
25 Tach 02 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific