Y gronfa: Rhoi help ariannol i fyfyrwyr meddygol a darpar-ffisiotherapyddion
|
Mae cronfa er cof am bâr priod gafodd eu llofruddio ar eu mis mêl wedi cyrraedd ei tharged cyntaf chwe mis cyn y disgwyl.
Erbyn hyn, mae Cronfa Mullany, gafodd ei sefydlu ym mis Medi, wedi codi £50,000.
Cafodd y gronfa ei sefydlu er mwyn rhoi help ariannol i fyfyrwyr meddygol a darpar-ffisiotherapyddion yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr.
Roedd Mr a Mrs Mullany o Gwm Tawe, Mrs Mullany'n feddyg a'i gŵr yn hyfforddi i fod yn ffisiotherapydd.
Mae dau ddyn, Avie Howell, 18 oed, a Kaniel Martin, 21 oed, yn y ddalfa ar ynys Antigua wedi eu cyhuddo o lofruddio.
Hael iawn
Dywedodd ffrind y teulu, Bethan Palfrey, sy'n helpu cynnal y gronfa: "Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i bob un ohonon ni.
"Felly mae cyflawni hyn o fewn chwe mis yn anhygoel."
Ychwanegodd hi fod y teulu a ffrindiau yn "wirioneddol ddiolchgar" am y gefnogaeth i'r gronfa.
Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu yn y cyfnod hwnnw i godi'r arian.
Ychwanegodd Ms Palfrey: "Mae pobl wedi bod yn gefnogol a hael iawn."
Dywedodd y byddai'r ymdrechion i godi arian yn parhau.
|