British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2009, 08:40 GMT
Bachgen: Gyrrwr gerbron llys

Robert Gaunt
Robert Gaunt

Mae disgwyl i ddyn 61 oed ymddangos yn y llys wedi gyhuddo o achosi marwolaeth bachgen naw oed gafodd ei daro gan ddau gar tra allan ar ei feic.

Bydd David James Lunn o Wrecsam yn ymddangos gerbron ynadon Yr Wyddgrug i wynebu sawl cyhuddiad gan gynnwys peidio stopio wedi damwain, a gyrru heb drwydded.

Bu farw Robert Gaunt yn yr ysbyty dydd Sadwrn wedi gwrthdrawiad yn Owrtyn ger Wrecsam ddydd Iau.

Cafodd menyw 58 oed gafodd ei harestio'n ogystal ei ryddhau ar fechniaeth yr heddlu.

Mae Mr Lunn wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth Robert Gaunt tra'n gyrru cerbyd heb yswiriant, achosi marwolaeth drwy yrru, peidio stopio wedi damwain a pheidio dweud wrth yr heddlu am ddamwain.

Bydd hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o yrru heb yswiriant, un o yrru heb drwydded ac un o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae rhieni Robert Gaunt wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl fore Sadwrn yn dilyn y ddamwain am 1930 nos Iau ar yr A539 rhwng Erbistock a Wrecsam.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Teyrngedau i fachgen fu farw
23 Maw 09 |  Newyddion
Marwolaeth: Arestio dau
22 Maw 09 |  Newyddion
Damwain: Bachgen yn marw
21 Maw 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific