British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2009, 07:01 GMT
Croesfan: Mesurau newydd

tren
Mae'r trenau sy'n teithio ar y lein yn cario glo o bwll glo brig

Mae mesurau arafu traffig yn cael eu cyflwyno ar ôl i gar daro yn erbyn trên nwyddau ar groesfan.

Bydd terfyn cyflymder o 20 millltir yr awr ar geir ger y man yng Ngarnant yn Nyffryn Aman.

Roedd y ddamwain ym mis Chwefror ond chafodd neb ei anafu.

Roedd y lein wedi ei hail-agor wedi cyfnod hir ym mis Ionawr er mwyn cludo glo o safle glo brig yng Ngwaun Cae Gurwen.

Roedd goleuadau a larymau'r groesfan yn gweithio pan ddigwyddodd y ddamwain ond mae Cyngor Sir Caerfyddin a Chwmni Network Rail wedi penderfynu bod angen mwy o fesurau diogelwch.

Cyn ail-agor y lein aeth cwmni Network Rail i ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch.

"Mae pob croesfan reilffordd yn ddiogel os yw'n cael ei defnyddio'n gywir - wrth ufuddhau i arwyddion ffyrdd, goleuadau rhybudd a larymau," meddai Mark Langman o'r cwmni.

"Y llynedd roedd 300 o adroddiadau am gamddefnyddio croesfannau rheilffordd drwy Gymru."

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge ei fod yn fodlon ar y mesurau diogelwch.

"Ry'n ni wedi edrych ar yr holl opsiynau a hwn yw'r cynllun gorau."

Y cam nesa yw ymgynghoriad cyhoeddus.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Rhybudd wrth i drac 'ailagor'
12 Ion 09 |  Newyddion
Glo: Trac yn ailagor
16 Ion 09 |  Newyddion
Gyrwyr yn peryglu bywydau
03 Tach 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific