British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Mawrth 2009, 15:02 GMT
Airbus: Colli 250 o swyddi

Awyren yr A380 yn glanio
Airbus: Yn 'adolygu anghenion busnes a staff'

Mae cwmni Airbus wedi cadarnhau eu bod yn anelu at gael gwared ar 250 o swyddi asiantaeth yn eu ffatri yn Sir y Fflint.

Eisoes mae'r cwmni, sy'n cynhyrchu adenydd awyrennau, wedi rhybuddio eu bod nhw'n gorfod arbed arian gan fod 'na lai o alw am gynnyrch, yn enwedig ar gyfer jet busnes Hawker.

Dywedodd y prif swyddog undeb lleyg Terry Dillon fod galw am 120 o awyrennau jet eleni ond y byddai galw am 48 y flwyddyn nesa.

"Dydan ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol agos.

"Mi rydan ni'n poeni'n arw am y dyfodol agos."

Mae'r safle'n cyflogi mwy na 6,000, gan gynnwys 1,400 o weithwyr asiantaeth.

Ac mae'r ffaith fod y cwmni'n ystyried hyn yn dangos stad argyfyngus yr economi yng Nghymru
David Melding AC, llefarydd y Blaid Geidwadol ar yr economi

Bu'r cwmni yn cynnal trafodaethau ddydd Llun gyda'r undebau.

Dywedodd y rheolwyr eu bod yn "adolygu anghenion busnes a staff".

Mae'r undebau wedi dweud eu bod yn siomedig ond yn gobeithio trafod er mwyn "lleihau nifer y diswyddiadau".

Dywedodd llefarydd eu bod yn gobeithio y byddai'r rhan fwyaf o ddiswyddiadau yn wirfoddol.

Cwmni Blue Arrow Service sy'n cyflogi'r gweithwyr asiantaeth.

Dywedodd Airbus eu bod yn cynnal trafodaethau gyda'r undebau a chwmni Blue Arrow Service.

Ni fyddai mwy o sylwadau tan ddiwedd y trafodaethau, meddai'r llefarydd.

Mi rydan ni'n poeni'n arw am y dyfodol agos
Terry Dillon, prif swyddog undeb lleyg

Dywedodd un o swyddogion Prydeinig undeb Unite, Bernie Hamilton,: "Hwn yw'r arwydd diweddara o effaith y dirwasgiad ar econom'r byd.

"Dylai Airbus wneud popeth posib er mwyn osgoi diswyddo gorfodol, gan gynnwys lleihau goramser a chwilio am wirfoddolwyr."

Mae llefarydd y Blaid Geidwadol ar yr economi, David Melding AC, wedi dweud: "Airbus yw'r cwmni cynhyrchu mwya yn y wlad hon ac mae ei safonau hyfforddi a datblygu sgiliau o'r radd flaena.

"Ac mae'r ffaith fod y cwmni'n ystyried hyn yn dangos stad argyfyngus yr economi yng Nghymru."

Mae'r newyddion diweddaraf yn ergyd arall i'r ardal.

Eisoes mae cwmniau Corus (Shotton) a Toyota (Glannau Dyfrdwy) wedi cyhoeddi diswyddiadau oherwydd y dirwasgiad.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Airbus: Arolwg o lefel staffio
19 Maw 09 |  Newyddion
Adenydd: Gwaith yn dechrau
02 Chwef 09 |  Newyddion
Bygythiad i swyddi Airbus?
19 Meh 08 |  Newyddion
£100 miliwn: Hwb i gwmni Airbus
14 Mai 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific