British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Mawrth 2009, 09:49 GMT
Band eang cyflym iawn i Gymru

Band eang cyflym iawn

Bydd miloedd o bobl yn y de ymhlith y cyntaf ym Mhrydain i gael defnyddio gwasanaeth band eang cyflym iawn.

Cyhoeddodd cwmni BT y byddan nhw'n gosod offer ffeibr yn rhannau o Gaerdydd a Fynnon Taf yn gynnar yn 2010.

Mae hyn yn golygu cyflymder o hyd at 60 megabit yr eiliad i'r we ar gael i dros 16,000 o fusnesau a chartrefi yn yr ardal.

Mae hyn ddeg gwaith yn gyflymach na'r hyn sydd ar gael yn y rhan fwyaf o gartrefi Prydain.

Gall cwsmeriaid felly wylio ffilmiau, chwarae gêmau a gweithio gyda graffeg cymleth ar yr un pryd.

Dywed BT eu bod yn gwario £1.5 biliwn ar y cynllun ar gyfer yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd a Muswell Hill yn Llundain cyn ymledu'r cynllun yn ehangach.

Ardaloedd trefol

Erbyn 2012, medd y cwmni, bydd 40% o gartrefi a busnesau Prydain yn medru cael mynediad i'r gwasanaeth ffeibr. Fe fydd 500,000 o gwsmeriaid yn elwa o'r rhan gyntaf o'r cynllun.

Ynghyd â Chaerdydd, ardaloedd trefol fydd y cynta i gael y dechnoleg, gan gynnwys Belffast, Caeredin, Glasgow, Llundain a Manceinion.

Ond mae'r cwmni yn gobeithio dysgu gwersi trwy osod yr offer yn ardaloedd llai Fynnon Taf a'r Calder Valley ger Halifax.

Bydd yr ardaloedd nesaf i dderbyn y gwasanaeth yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.

Pwysleisiodd y dirprwy brif weinidog, Ieuan Wyn Jones, bwysigrwydd y dechnoleg:

"Mae'n bwysig fod y strwythur cyfathrebu yng Nghymru yn gallu cwrdd a bob galw, ac mae'r cyhoeddiad yma yn arwydd pellach o'r rôl bwysig y mae Cymru am ei chwarae ar y blaen yn natblygiad gwasanaethau band eang ar draws Prydain."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Gwella cyswllt band eang
28 Tach 08 |  Newyddion
Band llydan: Galw am weithredu
27 Awst 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific