British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 21 Mawrth 2009, 16:28 GMT
Dinas: 200 yn protestio

Y brotest ddydd Sadwrn
Y brotest ddydd Sadwrn

Bu mwy na 200 o bobl yn gorymdeithio trwy Fangor ddydd Sadwrn yn galw am wella cyfleusterau yn y ddinas.

Yn ôl trefnwyr y brotest, a enwid 'Dinasyddion Bangor yn haeddu gwell', nid yw lleoliad mwyaf poblog y sir yn cael triniaeth deg gan y cyngor.

Mae Cyngor Gwynedd yn mynnu bod Bangor yn cael cyfran deg o fuddsoddiad cyhoeddus.

Dywedodd un o drefnwyr y brotest, Nigel Pickavance: "Ry' ni'n protestio am fod prinder cyfleusterau i blant, prinder datblygiadau o ansawdd, ac mae'r strydoedd mewn cyflwr gwael.

"Mae'r dirwasgiad wedi gwneud pethau'n waeth, ond roedd y broblem yn bodoli cyn y dirwasgiad.

"Ond digon yw digon. Os na wnawn ni rywbeth rŵan bydd y ddinas yn marw".

Ym mis Hydref y llynedd, penderfynwyd na allai cwmni Theatr Gwynedd Cyf barhau i fasnachu oherwydd problemau ariannol.

Mae'r perchnogion, Prifysgol Bangor, wedi penderfynu ailddatblygu'r safle a chodi canolfan gelfyddydau fydd yn costio miliynau o bunnau.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cynllun tai i'r henoed ar ddangos
18 Maw 09 |  Newyddion
Prifysgol yn rhybuddio staff
09 Maw 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific