British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 20 Mawrth 2009, 09:34 GMT
Cofeb i arwr y trac rasio

Tom Pryce
Bu farw Tom Pryce yn Grand Prix De Affrica yn 1977

Mae cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer cofeb barhaol i'r gyrrwr rasio Fformiwla 1 Tom Pryce.

Sefydlwyd ymddiriedolaeth i nodi campau'r gyrrwr o Rhuthun oedd y Cymro cyntaf i ennill ras Fformiwla 1.

Lladdwyd Pryce yn 27 oed mewn damwain yn Grand Prix De Affrica yn 1977 pan redodd swyddog ardraws y trac yn Kyalami.

Tom Pryce
Tom Pryce yn ennill ras Fformiwla 1 yn Brand's Hatch yn 1975

Mae'r artist Neil Dalrymple wedi ei gomisynnu i greu cerflun fydd yn cael ei osod ar Ffordd Clwyd yn ei dref enedigol, Rhuthun.

Bellach mae'r ymgynghorwyr amgylcheddol Richards Moorhead and Laing wedi cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer y gofeb.

Roedd sawl un yn credu y byddai Tom Pryce wedi bod yn bencampwr byd petai wedi byw.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Cyfle arbennig i gofio gyrrwr
03 Chwef 09 |  Newyddion
Cofio'r Cymro, 'y gyrrwr gorau'
11 Ion 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific