British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2009, 18:32 GMT
17 m i gynlluniau llifogydd

Tywyn, Gwynedd
Gall ardal arfordirol fel Tywyn, Meirionydd ddiodde tonnau anferth

Bydd 17 miliwn yn cael ei wario ar amddiffynfeydd yn erbyn llifogydd yng Nghymru.

Y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson, wnaeth y cyhoeddiad heddiw, ac er fod rhai o'r cynlluniau unigol wedi'u cyhoeddi eisoes, mae rhai yn newydd.

Ymhlith yr ardaloedd fydd yn elwa mae Tywyn, Gwynedd fydd yn derbyn 3.1m, Borth yng Ngheredigion a'r Rhyl - y ddau i dderbyn 2.8m.

Cafodd Tywyn wybod mor bell yn l a 1995 fod angen gwella'r amddiffynfeydd yn erbyn y mr ac effeithiau'r llanw.

Faint o arian i ba gynllun?
Rhyl, Sir Ddinbych - 2.8m
Dinbych, Sir Ddinbych - 1.1m
Dyffryn Conwy, Conwy - 2.1m
Bae Colwyn, Conwy - 2m
Fali, Ynys Mn - 384,000
Tywyn, Gwynedd - 3.1m
Borth, Ceredigion - 2.8m
Tregaron, Ceredigion - 875,000
Trefdraeth, Penfro - 15,000
Jackson's Way, Penfro - 216,000
Rhydyfelin, Rhondda Cynon Taf - 992,000
Bedlinog, Merthyr Tudful - 49,000

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Jane Davidson:

"Mae yna ymwybyddiaeth fod ein cymunedau mewn peryg cynyddol oddiwrth llifogydd ac erydu arfordirol oherwydd cynhesu byd-eang.

"Mae'n realiti y mae'n rhaid i ni ddelio ag e. Rhaid i ni geisio lliniaru'r effaith ar ein cymunedau a pharatoi yn y modd gorau posib.

"Gall neb atall llifogydd, ond fe allwn ni baratoi."

Mae strategaeth amgylchedd Llywodraeth Y Cynulliad yn amlinellu'r angen i addasu ar gyfer effeithiau cynhesu byd-eang. Bydd yr arian ychwanegol yn gymorth i gyrraedd y nod.

Bydd rhaid i'r holl awdurdodau lleol yn yr ardaloedd dan sylw gyfrannu arian cyfartal i bob cynllun, ond fe gawn nhw wneud cais am arian o gronfa amddiffyn arfordir a llifogydd Llywodraeth Y Cynulliad tuag at hyn.

Dywed Llywodraeth Y Cynulliad mai'r arian yma yw'r cam cynta allweddol tuag at weld y gwaith adeiladu hanfodol yn cael ei wneud.

Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
100,000 i leddfu llifogydd
04 Maw 09 |  Newyddion
Arglawdd i geisio atal llifogydd
26 Chwef 09 |  Newyddion
Llifogydd: Gweithredu ar frys?
29 Ion 09 |  Newyddion
Lansio prosiect amddiffyn morwrol
09 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific