British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2009, 15:53 GMT
Smygwyr yn sarhau staff

Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan
Ysbyty Glan Clwyd: Swyddogion diogelwch wedi cael ysgytwad

Mae swyddogion diogelwch wedi dweud eu bod yn wynebu sarhad bod dydd wrth ofyn i smygwyr adael y safle, yn ôl ymddiriedolaeth iechyd.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Cymru fod 3,000 o achosion o sarhau geiriol bob blwyddyn yn ysbytai'r ardal.

Mae smygu ar dir ysbyty yn erbyn polisi'r ymddiriedolaeth - ond nid yn erbyn y ddeddf.

'Ymosodol'

Dywedodd Steve Jones, rheolwr diogelwch yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn Sir Ddinbych, fod rhai swyddogion diogelwch wedi cael ysgytwad.

"Mae cleifion, perthnasau ac ymwelwyr yn gallu troi'n ymosodol yn eiriol pan mae staff yn gofyn yn gwrtais iddyn nhw symud i ffwrdd o'r adeilad a smygu yn rhywle arall.

"Yr ateb arferol ydi 'Pam?' neu 'Beth ydych chi'n mynd i wneud am y peth?'

"Mae'r staff wedi'u hyfforddi sut i ddelio â gwrthdaro ac yn egluro'n broffesiynol a chwrtais ei fod yn ysbyty di-fwg."

'Cymylau'

Dywedodd Nick Clerk, arbenigwr obstetrig a gynecolegol, ei bod hi'n bryd datrys y broblem.

"Mae'n bechod gweld merched beichiog, mamau gyda babanod newyddanedig a phlant yn dod i'n hadran ni, cleifion yn cyrraedd mewn ambiwlans - a staff ac ymwelwyr yn gorfod mynd drwy gymylau o fwg sigaréts .... heb sôn am y sbwriel a'r bonion sigaréts ar hyd ymyl y fynedfa."

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth fod ei grymoedd wedi'u cyfyngu wrth ofyn i bobl beidio ag ysmygu.

"Fodd bynnag, os bydd y sefyllfa'n parhau, fe fydd yr ymddiriedolaeth yn edrych o'r newydd ar y grym sydd ganddom ni, ac yn trafod gyda Llywodraeth Y Cynulliad ba gamau pellach y medrwn ni eu cymeryd."



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Talu'n ddrud am ysmygu
25 Gorff 08 |  Newyddion
Gwahardd ysmygu: 'Llwyddiant'
02 Ebr 08 |  Newyddion
Ysmygu: Dirwy i dafarnwr
04 Ion 08 |  Newyddion
Smygu: Miloedd am roi'r gorau
27 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific