British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2009, 07:03 GMT
Mwy i gael cynnig brechiad canser

Cansyr ceg y groth
Mae feirws HPV yn achosi canser ceg y groth

Bydd pob merch yng Nghymru gafodd eu geni rhwng Medi 1 1991 ac Awst 31 1995 yn cael cynnig brechiad yn erbyn y feirws papilloma dynol yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf.

Dyma'r feirws sy'n achosi canser ceg y groth.

Y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, gyhoeddodd bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwario £9m wrth sicrhau bod 40,000 yn fwy o ferched yn cynnig y brechiad.

Daw'r mesur wedi llwyddiant rhaglen ddechreuodd yn hydref y llynedd ar gyfer 20,000 o ferched rhwng 12 a 13 oed.

Mae bron 90% o ferched yr oed yma wedi cael eu brechiad cyntaf a tua 75% wedi cael yr ail.

'Arwyddocaol'

Dywedodd Ms Hart: "Dwi wrth fy modd gyda llwyddiant y rhaglen brechu ac am ddiolch i bawb sydd wedi'n helpu ni i leihau'r risg i ferched rhag datblygu canser pan fyddan nhw'n hŷn.

"Mae'r brechiad HPV (Feirws Papilloma Dynol) yn ddatblygiad arwyddocaol ym maes iechyd cyhoeddus ac fe fyddwn i'n hoffi gweld Cymru'n bwrw ymlaen gyda'r rhaglen yn gynt na'r cynlluniau gwreiddiol.

"Rhaid cofio nad yw'r brechiad yn amddiffyn yn erbyn pob achos o HPV ... felly mae'n bwysig i bawb gael eu sgrinio pan fyddan nhw'n cael y cynnig."

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi talu am ymgyrch farchnata o fis Medi ymlaen i hyrwyddo dechrau'r rhaglen frechu.

Mae taflenni gwybodaeth a deunydd arall wedi eu dosbarthu i ysgolion.



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Brechu merched rhag firws
04 Medi 08 |  Newyddion
Canser: Brechu merched ysgol
26 Hyd 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific